Toglo gwelededd dewislen symudol

Disgyblion lleol yn anfon negeseuon i annog athletwyr proffesiynol

Mae plant ysgol o bob cwr o Abertawe wedi cymryd rhan mewn prosiect ysbrydoledig fel rhan o IRONMAN 70.3 Abertawe.

Derbyniodd ysgolion lleol gardiau post gwag fel y gallai disgyblion fod yn greadigol ac ysgrifennu negeseuon cefnogaeth arnynt at yr athletwyr sy'n cystadlu yn y digwyddiad ddydd Sul, 13 Gorffennaf.

Mae disgyblion o Ysgol Gynradd Pontlliw, Ysgol Gynradd Cilâ, Ysgol Gynradd Glyncollen, Ysgol Pen-Y-Bryn ac Ysgol Gynradd San Helen wedi addurno cardiau post gyda geiriau anogaeth a negeseuon ysgogol. Caiff y cardiau post eu dosbarthu i fagiau'r athletwyr i roi hwb iddynt cyn iddynt gymryd rhan yn y ras 70.3 milltir, sy'n dechrau gyda ras nofio yn Noc Tywysog Cymru, cyn taith feicio drwy'r Mwmbwls a bro Gŵyr, a gorffen gyda hanner marathon ar hyd Bae Abertawe.

Gyda negeseuon sy'n cynnwys "Pob lwc a pheidiwch byth â rhoi'r gorau iddi", "Rydych chi'n enillydd", a "Gallwch chi wneud hyn! Ailadroddwch ar fy ôl i - gallwch chi wneud hyn!" bydd geiriau'r disgyblion heb os nac oni bai'n ysbrydoli'r cyfranogwyr i wneud eu gorau glas yn ystod y ras anodd.

Meddai'r Cynghorydd Robert Smith, Aelod Cabinet dros Addysg a Dysgu yng Nghyngor Abertawe, "Mae'n hyfryd gweld disgyblion o bob rhan o Abertawe'n croesawu digwyddiad IRONMAN 70.3 Abertawe.  Rydym yn gobeithio, drwy gymryd rhan yn y prosiect hwn, y byddwn yn ysbrydoli pobl ifanc i gymryd rhan yn y digwyddiad yn y dyfodol."

Ychwanegodd Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth, "Mae IRONMAN 70.3 Abertawe yn ddigwyddiad allweddol i'r ddinas, ac mae'r brwdfrydedd a ddangosir gan y disgyblion hyn yn galonogol. Mae cynnal y digwyddiad cyfres broffesiynol cyntaf erioed yn y DU yn dyst i enw da cynyddol Abertawe yng nghalendr IRONMAN.

"Mae'r digwyddiad hefyd yn rhoi hwb economaidd sylweddol o dros £2.35 miliwn i'r ardal."

Meddai Cyfarwyddwr y Ras, Rebecca Sutherland yn IRONMAN 70.3,"Diolch i'r holl ysgolion a phlant a gymerodd ran ym Mhrosiect Cerdyn Post Athletwyr IRONMAN 70.3 Abertawe! Bydd yn foment arbennig pan fydd athletwyr yn agor eu gwarbaciau, yn llawn nerfau cyn y digwyddiad, ac yn dod o hyd i neges lwc dda annisgwyl.

"Mae e' wir yn gwneud gwahaniaeth i'w profiad. Mae'r cyffyrddiad lleol hwn yn enghraifft wych o'r croeso cynnes y mae Abertawe'n ei roi i athletwyr sy'n ymweld, gan wneud iddynt deimlo bod croeso mawr iddynt yma."

Beth am ddod i gefnogi'r athletwyr ddydd Sul 13 Gorffennaf yn IRONMAN 70.3 Abertawe sy'n dechrau am 7am yn Noc Tywysog Cymru, gyda'r llinell derfyn ym Mharc yr Amgueddfa, o flaen Amgueddfa Genedlaethol y Glannau?

I gael gwybodaeth am y digwyddiad ac unrhyw ffyrdd a fydd ar gau, ewch i'r wefan www.croesobaeabertawe.com.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 08 Gorffenaf 2025