Toglo gwelededd dewislen symudol

IRONMAN 70.3 Abertawe wedi dychwelyd i Abertawe

Mwynhaodd miloedd o athletwyr a chefnogwyr ddigwyddiad IRONMAN 70.3 Abertawe llwyddiannus arall wrth i'r digwyddiad y gwerthwyd pob tocyn amdano ddychwelyd am ei 4edd flwyddyn.

ironman sunday 2025

Cymerodd dros 2,500 o athletwyr o bob cwr o'r byd ran, o wledydd fel yr UDA, yr Almaen a Ffrainc, a gwnaeth llawer o athletwyr rasio ar dir cartref. Bloeddiodd y gynulleidfa wrth i Kat Matthews ddod yn gyntaf yng nghategori'r menywod gydag amser rhagorol o 4:20:37, ac enillodd Harry Palmer yng nghategori'r dynion a'i amser oedd 3:51:18.

IRONMAN 70.3 Abertawe 2025 oedd digwyddiad cyntaf erioed IRONMAN Pro Series y DU, wrth i dreiathletwyr proffesiynol gystadlu yn y Pro Series i ennill cyfran o gyfanswm gwobrau o $1.7 miliwn.

Nofiodd yr athletwyr mewn cylch 1.2 milltir o hyd yn Noc Tywysog Cymru cyn iddynt fynd ar gwrs beicio 56 milltir o hyd trwy'r Mwmbwls, ar hyd ffyrdd sy'n dilyn clogwyni arfordirol penrhyn Gŵyr, cyn beicio allan trwy Abertawe wledig a dilyn Bae Abertawe i'r ddinas. Yn olaf, rhedodd athletwyr 13.1 milltir ar hyd Bae Abertawe cyn cyrraedd y llinell derfyn ym Mharc yr Amgueddfa, lle roedd y gynulleidfa gyffrous yn eu cefnogi.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth, "Roedd yn bleser croesawu IRONMAN i'r ddinas unwaith eto, ynghyd â'r miloedd o bobl a gymerodd ran ac a oedd yn gwylio'r digwyddiad anhygoel hwn. Roedd cynnal y digwyddiad Pro Series cyntaf yn y DU yn anrhydedd fawr, ac edrychwn ymlaen at barhau â'n perthynas ag IRONMAN yn y blynyddoedd i ddod. Llongyfarchiadau i Harry Palmer a Kat Mattews am ennill, ac i bawb arall a gymerodd ran yn y ras flinderus hon."

Meddai Cyfarwyddwr Ras IRONMAN 70.3 Abertawe, Rebecca Sutherland, "Rydym wedi cael hwyl bob tro wrth gynnal y ras yn Abertawe, ac nid oedd hynny'n wahanol eleni. Roedd yn ras anhygoel arall gyda miloedd o athletwyr yn croesi'r llinell derfyn enwog â charped coch wrth i wylwyr eu cefnogi'n frwd. Gwnaeth IRONMAN Pro Series ddiddanu cefnogwyr treiathlon yn fawr, wrth i rai o athletwyr gorau'r byd gystadlu mewn ras wefreiddiol ar arfordir Cymru. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at wneud y cyfan eto'r flwyddyn nesaf ar ddydd Sul 12 Gorffennaf!"

Bydd IRONMAN 70.3 Abertawe yn dychwelyd i'r ddinas ar ddydd Sul 12 Gorffennaf 2026, a gallwch gofrestru eich diddordeb mewn cymryd rhan yma: https://www.ironman.com/races/im703-swansea/connect

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 13 Gorffenaf 2025