Ewch i'r ffair swyddi'r wythnos nesaf
Mae Cymunedau am Waith+ Cyngor Abertawe'n cynnal Ffair Swyddi Nadolig, mewn partneriaeth â'r Adran Gwaith a Phensiynau yng Nghanolfan y Cwadrant o 10am i 2pm, Hydref 24.
Bydd mwy nag ugain o gyflogwyr lleol yn y digwyddiad hwn yn cynnig swyddi tymhorol rhan-amser ar gyfer cyfnod y Nadolig, yn ogystal â chyfleoedd gyrfa amser llawn.
Hefyd, bydd sawl cyflogwr yn cynnal cyfweliadau byw ar y safle, a bydd ein tîm Cymunedau am Waith+ ar gael i ddarparu cefnogaeth cyflogaeth.
Does dim angen cadw lle ymlaen llaw - cyrhaeddwch ar y diwrnod gyda'ch CV a'ch dull adnabod.