Toglo gwelededd dewislen symudol

Ydych chi'n bwriadu dathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines?

Mae'r cyfnod cyn Jiwbilî Platinwm y Frenhines ar ddod a gall preswylwyr Abertawe gymryd rhan drwy gynnal eu partïon stryd eu hunain.

Queen's Platinum Jubilee logo W

Mae'r cyngor wedi hepgor ffioedd cau ffyrdd i bobl leol sydd am gau eu stryd ar gyfer partïon stryd i ddathlu Jiwbilî'r Frenhines ar benwythnos hir Gŵyl y Banc ym mis Mehefin.

Mae hefyd wedi creu tudalen wybodaeth ar ei wefan i annog cymunedau i gymryd rhan, gan gynnwys tudalen Cyllido Torfol Abertawe ar gyfer y rheini sydd am ddechrau ymgyrch cyllido torfol ar gyfer eu dathliadau.

Gallai preswylwyr sy'n defnyddio Cyllido Torfol Abertawe i godi arian ar gyfer eu dathliadau dderbyn ernes gan y cyngor o hyd at £1,000, ond bydd angen iddynt gyflwyno'u ceisiadau erbyn 23 Mawrth.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Nawr yw'r amser i ddechrau trefnu os ydych am ddathlu penwythnos y Jiwbilî mewn steil.

"Fel arfer byddai'n rhaid i breswylwyr dalu ffi i gau eu stryd neu ddefnyddio mannau agored y cyngor i gynnal dathliadau. Nid felly y bydd hi'r tro hwn.

"Os ydych yn bwriadu ariannu parti stryd, yn y gymuned neu fath arall o ddathliad gallwch ddefnyddio Cyllido Torfol Abertawe i godi arian gan y gymuned leol.

Mae partner cyllido torfol y cyngor, Spacehive, yn helpu pobl i godi arian ar gyfer eu dathliadau yn y cyfnod sy'n arwain at fis Mehefin. Maen nhw wedi creu canllaw ar gyfer sefydlu ymgyrch cyllido torfol ac wedi creu tîm i helpu gyda'r caniatâd a'r trwyddedau sydd eu hangen ar drefnwyr digwyddiadau.

Ychwanegodd y Cyng. Francis-Davies, "Ar ben hynny, byddwn yn asesu cynigion am Gyllido Torfol Abertawe ar gyfer prosiectau'r Jiwbilî a gallech dderbyn ernes gennym ni tuag at eich ymgyrch! Mae eleni'n flwyddyn arbennig ac rydym am i bawb gael amser gwych yn dathlu Jiwbilî'r Frenhines Elizabeth.

"Ond mae angen i chi fynd ar-lein a chynnig eich prosiect i gael ernes gan y cyngor ar y wefan bwrpasol yma: www.spacehive.com/create 

Bydd penwythnos Gŵyl y Banc Jiwbilî Platinwm y Frenhines yn dechrau ddydd Iau 2 Mehefin ac yn dod i ben ddydd Sul 5 Mehefin.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.abertawe.gov.uk/jiwbili 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Mawrth 2022