Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun bagiau coch a gwyrdd newydd wedi ei gyflwyno ar gyfer gwirfoddolwyr codi sbwriel.

Os ydych wedi gweld bagiau sbwriel coch a gwyrdd llachar yn ymddangos gerllaw biniau yn Abertawe, mae hynny'n arwydd bod grŵp arall o wirfoddolwyr wedi bod yn gweithio'n galed i gadw strydoedd, parciau a thraethau Abertawe yn lân.

keep wales tidy green and red bags

Mae Cyngor Abertawe nawr yn darparu bagiau coch a gwyrdd ar gyfer gweithgareddau codi sbwriel, gan weithio mewn partneriaeth â'r elusen amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus.

Gall 'Arwyr Sbwriel' cofrestredig, grwpiau cymunedol ac unrhyw un sy'n ymweld â Hyb Codi Sbwriel gasglu bagiau coch a gwyrdd ar gyfer eu digwyddiadau codi sbwriel a rhoi'r bagiau llawn sbwriel gerllaw biniau cyhoeddus i gael eu casglu. Mae Cyngor Abertawe yn gweithredu system dau fag, bagiau gwyrdd ar gyfer eitemau ailgylchu sydd yn cynnwys plastig, tuniau, caniau a gwydr sydd heb dorri, a bagiau coch ar gyfer pob math arall o sbwriel sy'n cael ei gasglu.

Mae'r system dau fag wedi cael ei gynllunio i wella effeithlonrwydd a gwneud bywyd mor hawdd â phosibl i wirfoddolwyr. Ers Ionawr 2023, mae dros 2,300 o fagiau coch a gwyrdd wedi cael eu casglu gan wirfoddolwyr.

Dywedodd Cyril Anderson, Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymunedol: "Mae llawer o bobl yn Abertawe sydd eisiau bod yn arwyr sbwriel a helpu i gadw eu cymdogaethau yn lân ac mae'r fenter bagiau coch yn eu helpu i wneud hynny.

"Rydym wrth ein bodd i fod yn gweithio gyda Cadwch Gymru'n Daclus ar y syniad gwych hwn, sydd i gyd yn rhan o'n hymrwymiad £2m y flwyddyn i fynd i'r afael â sbwriel ledled Abertawe."

Dywedodd Phil Budd, Swyddog Prosiect Cadwch Gymru'n Daclus dros Abertawe: 

"Mae'n gyffrous gweld mwy a mwy o fagiau coch a gwyrdd yn ymddangos - mae'n dystiolaeth o gymuned gynyddol o wirfoddolwyr codi sbwriel anhygoel.  

"Gobeithio bydd pawb yn Abertawe yn dechrau deall arwyddocâd y bagiau coch a gwyrdd a chael eu hysbrydoli i gymryd rhan yn gofalu am ein gwlad hardd." 

Os ydych yn bwriadu glanhau eich ardal leol neu eich hoff fan hardd, gallwch fenthyg offer o Hyb Codi Sbwriel. Mae 15 Hyb ledled Abertawe, yn cynnig yr holl offer sydd ei angen arnoch i gynnal digwyddiad codi sbwriel diogel.  

Ariennir y fenter gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae Cadwch Gymru'n Daclus yn gweithio gyda Chyngor Abertawe i ddileu sbwriel a gwastraff.

Am fwy o wybodaeth ewch i  https://www.swansea.gov.uk/article/7833/Volunteer-litter-picking  

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Awst 2024