Toglo gwelededd dewislen symudol

Cofio 'Bechgyn Cilfái' am byth

Mae saith deg o arwyr o'r Rhyfel Byd Cyntaf, gynnwys gŵr a dderbyniodd y VC (Croes Victoria) wedi cael eu hanrhydeddu gyda chofeb newydd sydd wedi'i chysegru i'w haberth.

kilvey boys memorial

Dadorchuddiwyd y gofeb newydd i 'Fechgyn Cilfái' a roddodd eu bywydau yn y Rhyfel Mawr mewn seremoni deimladwy yn St Thomas, y daeth arweinwyr dinesig iddi ynghyd â'r bobl leol a gododd dros £23,500 i wireddu eu huchelgais.

Ymhlith y sawl a goffawyd y mae'r Is-gapten Francis Grenfell y dyfarnwyd y VC iddo  a'i efaill Riversdale Grenfell, ochr yn ochr â 68 o ddynion eraill y'u hadwaenir yn lleol fel 'Bechgyn Cilfái'.

Roedd y sawl a oedd yn bresennol yn y seremoni gysegru'n cynnwys yr Arglwydd Faer, y Cyng. Paxton Hood-Williams, y Dirprwy Arweinydd ar y Cyd, y Cyng. Andrea Lewis ac Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg, Louise Fleet.

Anita Pugh, Cadeiryddes 'Save Our Memorial Monument', sydd wedi arwain yr ymgais i gael cofeb newydd ers i'r eglwys gau ei drysau am y tro olaf yn 2015, bron degawd yn ôl.

Roedd hi hefyd yn bresennol yn y seremoni ddadorchuddio a dywedodd na allai fod yn fwy balch nac yn fwy diolchgar i weld uchelgais y grŵp yn cael ei wireddu o'r diwedd.

Meddai, "Roedd pob un o'r dynion hyn rydym yn eu coffáu wedi cyfrannu. Yn ystod ein hymchwil, datgelwyd sawl gweithred arwrol, gan gynnwys hanes un dyn a gollodd ei fywyd ar ôl dychwelyd, dan danio trwm, i achub ei ffrind a'i gydymaith gydol oes.

"Roeddem am i'r gymuned gyfan glywed am y 70 o ddynion dewr hyn. Rhoesant eu bywydau drosom. Y peth lleiaf y gallem ei wneud yw sicrhau eu bod yn cael eu cofio gyda chofeb deilwng, yn y ffordd y maent wir yn ei haeddu.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Tachwedd 2024