Toglo gwelededd dewislen symudol

Defnyddwyr cartrefi modur yn cael eu hannog i ddefnyddio mannau diogel ar gyfer parcio a gwersylla

Gofynnir i berchnogion cartrefi modur ddefnyddio lleoliadau diogel ac addas i barcio'u cerbydau pan fyddant yn aros dros nos yn ardal y Mwmbwls.

mumbles overlooking village generic

Mae rhwystr cyfyngiad uchder wedi cael ei osod ym maes parcio Knab Rock i atal y cerbydau rhag mynd i'r safle a gofynnir i berchnogion ddefnyddio lleoliadau amgen fel gwersyllfeydd cofrestredig yn Abertawe.

Nid oes gan faes parcio Knab Rock gyfleusterau addas ar gyfer cartrefi modur.

Mae'r rhwystr newydd yn Knab Rock 2.3m uwchben y ddaear, sy'n golygu y gall ceir, faniau a cherbydau maint canolig eraill fynd i mewn i'r maes parcio heb gyfyngiad.

Rhwystr siglo ydyw felly gellir ei agor i gerbydau y mae angen iddynt ddefnyddio'r llithrfeydd, a bydd aelod o staff yn y maes parcio rhwng 8am ac 8pm bob dydd yn ystod misoedd yr haf.

Mae trefniadau'n cael eu gwneud ar gyfer defnyddwyr rheolaidd a chanddynt gerbydau mwy, fel y gallant ddefnyddio'r safle y tu hwnt i'r oriau hyn.

Anogir i berchnogion cerbydau sydd dros 2.3m o uchder barcio ym Mae Bracelet neu feysydd parcio eraill yn yr ardal wrth barcio yn ystod y dydd.

Mae rhai o feysydd parcio'r cyngor yn caniatáu ar gyfer parcio dros nos. Ond ni chaniateir gwersylla na chysgu mewn cerbydau dros nos mewn meysydd parcio sy'n eiddo i'r cyngor, ac rydym yn annog pob ymwelydd i barchu'r rheoliad hwn.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Gorffenaf 2023