Llawer o bethau i'w gwneud dros yr hanner tymor hwn
Mae amrywiaeth eang o hwyl gŵyl y banc ar gael y penwythnos hwn, diolch i atyniadau a gweithgareddau Cyngor Abertawe.
Mae llawer o atyniadau, gan gynnwys Lido poblogaidd Blackpill, am ddim neu ar gael am gost isel, gan helpu teuluoedd drwy'r argyfwng costau byw.
Ac os yw'r tywydd braidd yn ddiflas, mae'r hwyl dan do sydd ar gael i deuluoedd yn amrywio o leoliadau diwylliannol â mynediad am ddim, fel Amgueddfa Abertawe, Canolfan Dylan Thomas ac Oriel Gelf Glynn Vivian i lyfrgelloedd.
Mae'r cyngor hefyd yn gofalu am amrywiaeth o fannau agored, gan gynnwys llawer o draethau a pharciau.
Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, "Rydym am i bobl gael amser gwych y penwythnos hwn; mae lleoliadau fel Lido Blackpill yn ddelfrydol i deuluoedd o bob rhan o Abertawe. Mae atyniadau eraill sydd ar gael yn cynnwys Trên Bach Bae Abertawe, golff gwallgof a phedalos Llyn Cychod Singleton.
"Mae'r atyniadau a gynhelir gennym - y maent i gyd am ddim ac yn fforddiadwy - yn rhan o'n hymrwymiad i gefnogi pobl Abertawe drwy'r argyfwng costau byw.
"Mae parciau a thraethau'n ddewis gwych ar gyfer picnics os yw'r haul yn gwenu.
"Mae digon o gyfleoedd am hwyl hefyd yn y lleoliadau amrywiol eraill sydd i'w cael yn Abertawe."
Mae gan Lido glan môr Blackpill bwll padlo, ardal chwarae i blant, craig ddringo a chyfleusterau picnic. Mae ffynhonnau i chwarae ynddynt, mannau i fwynhau picnic a chyfleusterau cyfagos gan gynnwys caffis. Gallwch gyrraedd y safle ar droed, drwy feicio ar hyd y llwybr beicio glan môr, ar fws - mae safle bws yn agos iawn - ac mewn car, gan fod cyfleusterau parcio gerllaw.
Mae'r parc dŵr awyr agored ar agor yn ddyddiol o 9am i 5pm tan 28 Medi.
Gall preswylwyr Abertawe sy'n rhan o gynllun Pasbort i Hamdden y Cyngor arbed arian ar atyniadau y telir amdanynt, fel Castell Ystumllwynarth.
Mae lleoliadau diwylliannol a llyfrgelloedd mawr eu parch y cyngor yn parhau i gynnal digwyddiadau a gweithgareddau am ddim. Gallwch hefyd gael mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Rhagor o wybodaeth:croesobaeabertawe.com