Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhowch help llaw i ni gyda dail sydd wedi syrthio

Mae ein timau glanhau wedi bod yn gweithio'n galed dros yr wythnosau diwethaf mewn cymunedau ar draws Abertawe'n clirio tunelli o ddail yr hydref sydd wedi syrthio ar lwybrau a phriffyrdd.

new leaves collection machine

Rydym yn ailgyfeirio adnoddau o weithgareddau glanhau eraill i wneud popeth y gallwn i atal draeniau rhag cael eu rhwystro a chadw llwybrau troed mor glir â phosib rhag dail sydd wedi syrthio.

Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymunedol, "Yr amser hwn o'r flwyddyn, mae ein timau glanhau bob amser yn brysur yn ymdrin â dail sydd wedi syrthio. Rydym yn gweithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â'r broblem yn cael gwared ohonyn nhw mor gyflym â phosib.

"I'n helpu ni, rydym wedi prynu peiriant sugno a thaenu dail masnachol newydd yn ddiweddar a fydd yn ein helpu i godi hyd yn oed mwy o ddail yn gyflym ac yn effeithlon.

"Byddai cwpl o ddiwrnodau o wynt a glaw'n ddigon i wneud i ddail, brigau a changhennau gronni ymhellach, yn enwedig mewn ardaloedd llawn coed.

"Felly os ydych chi'n gweld llawer iawn o ddail wedi cwympo sy'n achosi problem ar ffyrdd neu lwybrau troed y mae angen i'n timau gael cip arnyn nhw, rhowch wybod iddyn nhw drwy e-bost yn evh.reception@abertawe.gov.uk"

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Hydref 2025