Mae ein timau glanhau wedi bod yn gweithio'n galed dros yr wythnosau diwethaf mewn cymunedau ledled Abertawe'n clirio tunelli o ddail yr hydref sydd wedi cwympo ar lwybrau a phriffyrdd.
Rydym yn ailgyfeirio adnoddau i wneud popeth y gallwn i atal draeniau rhag cael eu rhwystro a chadw llwybrau troed mor glir â phosib rhag dail sydd wedi cwympo.
Byddai cwpl o ddiwrnodau o wynt a glaw'n ddigon i wneud i ddail, brigau a changhennau gronni ymhellach, yn enwedig mewn ardaloedd llawn coed.
Felly, os byddwch yn gweld rhywbeth y bydd angen i'n timau gymryd cip arno, a wnewch chi roi gwybod iddynt drwy e-bostio evh.reception@abertawe.gov.uk
Addaswyd diwethaf ar 24 Hydref 2024