Llif Unffordd (LFT) - Ar 28 Mawrth, mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu rhoi terfyn ar yr holl gyfyngiadau COVID-19.
Fel rhan o'r newidiadau hyn, bydd angen i bobl sydd am gael Prawf Llif Unffordd (LFT) wneud cais amdanynt ar-lein.
Mae'r camau hyn hefyd yn golygu y bydd rhwydwaith Cyngor Abertawe o fannau casglu citiau LFT cymunedol yn ein llyfrgelloedd yn cau. Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi'r rhwydwaith yn ystod y pandemig. Rydych wedi helpu i gadw Cymru'n ddiogel.
Ar ôl 25 Mawrth, gellir archebu profion LFT ar-lein yn https://www.gov.uk/order-coronavirus-rapid-lateral-flow-tests
Os ydych yn adnabod rhywun nad oes ganddo fynediad at y rhyngrwyd ac mae angen cit LFT arno, gall archebu un drwy ffonio rhif 119 y GIG, yn rhad ac am ddim.
I weld cyngor diweddaraf Llywodraeth Cymru ar COVID-19, ewch i'r ddolen hon https://llyw.cymru/coronafeirws