Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Mai

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Os ydych erioed wedi darllen llyfr, mae eich angen chi ar ein tîm llyfrgelloedd!

Mae angen i chi helpu Gwasanaeth Llyfrgelloedd Abertawe i ddathlu 150 mlynedd mewn modd cofiadwy.

library staff reading 2

Agorodd llyfrgell gyntaf y ddinas ar St Helen's Road ym 1875 ac mae angen ar ein tîm i chi rannu eich hoff atgofion am lyfrgelloedd a darllen er mwyn dathlu'r bennod ddiweddaraf yn y stori ddi-ben-draw hon.

Meddai Elliott King, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant a Chydraddoldeb, "Yn nyddiau cynnar llyfrgelloedd Abertawe, roedd rhoi llyfrau i'ch llyfrgell leol o bwys cymdeithasol.

"Heddiw, rydym yn gobeithio y bydd ein preswylwyr a'n henwogion lleol yn rhannu eu hatgofion am lyfrgelloedd â ni.

"Rydym yn gobeithio clywed am unrhyw beth, o'ch atgofion cyntaf am ymweld â llyfrgell, eich hoff lyfr cyntaf, rhywbeth o lyfr a newidiodd eich bywyd - neu hyd yn oed y llyfr diweddaraf rydych wedi'i ddarllen a pham. Mae'n siŵr bod gennych eich syniadau eich hun hefyd.

"Os hoffech wneud cyfraniad cyflym, mae croeso i chi e-bostio libraryline@abertawe.gov.uk."

Ac os hoffech gael rhagor o wybodaeth am 150 mlynedd o Lyfrgelloedd Abertawe, ambell ffaith a stori hynod am eu cyfraniad at fywyd a diwylliant ein cymunedau, ewch i'r Llyfrgell Ganolog o 6 Mai i gael cip ar yr arddangosfa.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 01 Mai 2025