Toglo gwelededd dewislen symudol

Archwiliwch drysorau cudd ein llyfrgelloedd y mis hwn

Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Abertawe'n barod i agor ei gromgelloedd yn ddiweddarach yn y mis er mwyn rhannu rhai o drysorau cudd ei gasgliadau.

central library vaults day

Bydd y digwyddiad deuddydd arbennig hwn yn Ystafell Ddarganfod y Llyfrgell Ganolog ar 18 a 19 Hydref yn cynnig y cyfle i ymwelwyr gael cipolwg agos ar argraffiad cyntaf o 'On the Origin of Species', y cyhoeddiad gan Charles Darwin a newidiodd y byd, yn ogystal â llyfr hynaf y llyfrgell, a gyhoeddwyd ym 1489.

Bydd pobl ifanc hefyd yn cael y cyfle i archwilio llyfrgelloedd a sut maent yn cael eu creu drwy arddangosiadau realiti rhithwir ymarferol.

Thema'r digwyddiad eleni yw 'Adeiladu Llyfrgell' a bydd yn adrodd y straeon sy'n ymwneud â chreu llyfrgelloedd, gan ddangos pwy roddodd lyfrau i lyfrgelloedd yn Abertawe, sut mae casgliadau wedi datblygu, a sut mae llyfrgelloedd yn mynd i'r afael â llenyddiaeth ddadleuol.

Bydd plant yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgaredd ar thema plant yn y Llyfrgell i Blant, a bydd profiadau realiti rhithwir yn cyflwyno llyfrgelloedd mewn ffordd newydd sbon.

Ymysg yr arteffactau anhygoel a arddangosir fydd argraffiad cyntaf o 'On the Origin of Species' gan Charles Darwin, 'Finales' gan Keats gyda darluniadau gwreiddiol gan Amy Morgan Price, a fersiwn Gymraeg o 'Uncle Tom's Cabin', sef 'Crynodeb o Gaban 'newyrth Tom'.

Bydd ymwelwyr hefyd yn cael y cyfle i weld yr eitem hynaf yn y casgliad, llyfr a gyhoeddwyd ym 1489 gan Sant Augustine.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Hydref 2024