Toglo gwelededd dewislen symudol

Sut mae'r cyngor yn helpu i leihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol y ddinas.

Disgwylir i bolisïau a chanllawiau trwyddedu sy'n helpu i gadw pobl yn ddiogel yn economi nos ffyniannus Abertawe gael eu hadolygu yn y misoedd i ddod.

Swansea at night

Gofynnir i Gabinet Cyngor Abertawe gymeradwyo sut caiff trefniadau trwyddedu ar gyfer tafarndai, clybiau a bwytai canol y ddinas eu diweddaru a'u monitro.

Mae dau adroddiad i'r Cabinet yn tynnu sylw at sut mae'r system bresennol wedi helpu i leihau troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y blynyddoedd diweddar a chefnogi mesurau i gadw dathlwyr yn ddiogel yn y nos.

Mae un adroddiad yn adolygu polisi trwyddedu'r cyngor sydd i'w adnewyddu ar ôl pum mlynedd. Mae'r adroddiad arall yn ystyried asesiad effaith cronnus canol y ddinas a gynhelir bob tair blynedd, gan edrych ar effaith nifer y tai trwyddedig yn yr ardal ar fusnesau a chymunedau.

Meddai David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol, "Mae'r adroddiad yn dangos sut mae ein hymagwedd at drwyddedu'n helpu i ddatblygu canol y ddinas fel lle diogel a chroesawgar i ymwelwyr sy'n dod yma yn y nos, wrth gefnogi swyddi a'r gymuned ."

Os cymeradwyir yr adroddiad, cynhelir ymgynghoriad eang ar y polisi trwyddedu cyn i adroddiad pellach fynd gerbron y Cabinet am benderfyniad terfynol, sydd i'w ddisgwyl yn yr haf.

Mae'r adroddiad Asesiad Effaith Cronnus yn cynnwys diweddariad sy'n dangos bod troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi dirywio'n gyffredinol gymaint â 45% mewn rhai ardaloedd ers yr adolygiad polisi trwyddedu diwethaf yn 2018.

Rhwng 2017 a 2022, yn ardal Wind Street gwelwyd gostyngiad o 39% mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol, gostyngiad o 25% mewn troseddau a gostyngiad o  33% mewn troseddau treisgar.

Yn ardal Ffordd y Brenin yn ystod yr un cyfnod, cafwyd gostyngiad o 43% yn nifer y troseddau a gofnodwyd, gostyngiad o 45% mewn troseddau treisgar a gostyngiad o 31% mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gwelwyd gostyngiadau cyffredinol mewn troseddau, troseddau treisgar ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal Y Stryd Fawr hefyd.

 

 

 

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023