Toglo gwelededd dewislen symudol

Ymgynghoriad ar bolisi trwyddedu canol y ddinas yn cychwyn yn fuan

Mae polisïau a chanllawiau trwyddedu sy'n helpu i gadw pobl yn ddiogel yn economi'r nos ffyniannus Abertawe yn cael eu hadolygu.

Swansea at night


Mae'r Cabinet wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad helaeth ar ei bolisi trwyddedu ac asesiad effaith cronnol (AEC) canol y ddinas sydd â'r nod o helpu i leihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol y ddinas.

Caiff polisi trwyddedu'r cyngor ei adolygu ar ôl pum mlynedd. Mae'r AEC yn cael ei adolygu ar ôl tair blynedd. Gall yr AEC helpu i gyfyngu ar y math o geisiadau trwyddedu neu'r nifer sy'n cael ei roi lle bo tystiolaeth i ddangos bod nifer y tai trwyddedig yn arwain at broblemau, fel trosedd ac anhrefn yn yr ardal.

Meddai David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol, "Mae'r adroddiadau a welwyd gan y Cabinet yn dangos sut mae ein hymagwedd at drwyddedu'n helpu i ddatblygu canol y ddinas fel lle diogel a chroesawgar i ymwelwyr sy'n dod yma yn y nos, wrth gefnogi swyddi a'r gymuned hefyd."

Dywedodd y Cyng. Hopkins mai diben yr adolygiadau oedd sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i'w diben sef darparu arweiniad clir ar sut y mae'r rheini sy'n darparu alcohol, bwyd ac adloniant yng nghanol y ddinas yn gweithredu.

Mae'r adroddiad Asesiad Effaith Cronnus yn cynnwys diweddariad sy'n dangos bod troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol y ddinas wedi dirywio'n gyffredinol gymaint â 45% mewn rhai ardaloedd ers yr adolygiad polisi trwyddedu diwethaf yn 2018.

Meddai'r Cyng. Hopkins, "Fel rhan o'r broses ymgynghori ar gyfer y polisïau, byddwn yn croesawu sylwadau gan amrywiaeth o fusnesau a sefydliadau ar y cynnydd hyd yn hyn a sut y gall pethau barhau i wella yn y blynyddoedd i ddod."

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023