Toglo gwelededd dewislen symudol

Gall y plant oeri yn Lido Blackpill y penwythnos hwn

Mae'r plant wedi dychwelyd i'r ysgol yr wythnos hon, ond mae cyfle o hyd i fwynhau rhai o'n hatyniadau awyr agored a'n traethau gorau gan ei bod hi'n addo bod yn benwythnos poeth.

Blackpill Lido

Mae mannau fel Lido Blackpill a llyn cychod Parc Singleton ynghyd ag atyniadau eraill, gan gynnwys golff gwallgof Gerddi Southend a Thrên Bach Bae Abertawe, wedi bod yn llwyddiannau mawr yr haf hwn.

A'r penwythnos hwn byddant ar gael i'w mwynhau yn nhywydd poeth iawn diwedd yr haf.

Mae tymor yr haf Abertawe'n dod i ben yn swyddogol ar 24 Medi ar gyfer y cyfle olaf i fwynhau'r dŵr yn y Lido a chael y daith olaf ar drên bach y bae.

Rhwng nawr a bryd hynny mae'r Lido ar agor bob dydd o 9am tan 5pm tra bo trên bach y bae, y golff gwallgof a'r llyn cychod ar gael ar benwythnosau.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 06 Medi 2023