Toglo gwelededd dewislen symudol

Mae'n wych bod nôl yn y Grand

Goleuadau, cerddoriaeth, bant â ni....mae'r sioe ar fin cychwyn o'r diwedd. Ar ôl 18 mis o fod ar gau, bydd y llenni'n codi unwaith eto ar lwyfan Theatr y Grand Abertawe a gall selogion y theatr ddychwelyd i'r lleoliad poblogaidd hwn o 4 Hydref.

snow white panto colin jackson

Bydd cynulleidfaoedd yn cael eu cyffroi gyda'n perfformiad cyntaf pan fydd Ben Portsmouth yn dychwelyd yn ei sioe deyrnged arobryn i Elvis ar 6 Hydref. Mae uchafbwyntiau eraill yr hydref yn cynnwys In the Night Garden ar 13 ac 14 Hydref, The Bootleg Beatles ar 23 Hydref, sioe newydd sbon Al Murray, Landlord of Hope and Glory (29 Hydref) ac mae The Circus of Horrors yn dychwelyd ar 3 Tachwedd i ddathlu 25 mlynedd o erchyllter arswydus.

Mae Theatr y Grand Abertawe wedi bod yn gyfystyr â phantomeimiau trawiadol ers tro ac nid yw eleni'n eithriad. Gyda rhestr o berfformwyr eithriadol gan gynnwys pencampwr Olympaidd Cymru, Colin Jackson, y gŵr enwog lleol, Kev Johns yn rôl yr hen wreigan, y digrifwr Jon Clegg a gyrhaeddodd rownd derfynol Britain's Got Talent a Zoe George o Abertawe, Snow White and the Seven Dwarfs fydd y panto perffaith, llawn hwyl i'r teulu ar gyfer y Nadolig hwn.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth,

"Mae Theatr y Grand Abertawe yn ganolog i gynnig diwylliannol Abertawe ac mae llawer wedi gweld ei heisiau dros y 18 mis diwethaf. Mae'n wych bod nôl i gwsmeriaid hen a newydd. Gyda'r panto'n dychwelyd, bydd y Nadolig yn un go arbennig.

Mae theatrau a lleoliadau'n dechrau ailgydio yn eu gwaith ar draws y wlad ac er nad yw'r feirws wedi diflannu, mae staff Theatr y Grand yn gweithio'n galed i sicrhau bod ymwelwyr yn cael amser diogel a phleserus."

Mae'r theatr wedi rhoi mesurau COVID-19 ar waith sy'n dilyn canllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y gofyniad am orchuddion wyneb ym mhob ardal gyhoeddus, ac eithrio lletygarwch, hylif diheintio dwylo ar bob lefel, taliadau digyswllt a threfn lanhau well cyn, yn ystod ac ar ôl perfformiadau. Mae rhestr lawn o'r canllawiau ar gael ar wefan Theatr y Grand a dylai cwsmeriaid eu darllen yn ofalus cyn mynd i unrhyw berfformiad.

Gellir cael gwybodaeth yma: https://www.grandabertawe.co.uk/coronafeirws

Bydd bwyty Malthouse Gower Brewery yn y theatr yn ailagor ar 6 Hydref a bydd yn lansio bwydlenni a chynigion diodydd newydd cyn bo hir, felly cadwch lygad ar www.themalthouserestaurant.co.uk

I archebu tocynnau ar gyfer perfformiadau a chael y diweddaraf ar ganllawiau newidiol COVID, ewch i www.grandabertawe.co.uk

 

 

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Hydref 2021