Gwnewch y peth iawn a helpwch i sicrhau nad oes sbwriel yn Abertawe'r haf hwn
Caiff preswylwyr ac ymwelwyr ag Abertawe eu hannog i wneud y peth iawn a mynd â'u sbwriel adref gyda nhw yr haf hwn.

Daw apêl Cyngor Abertawe yn ystod y dyddiau cyn gwyliau haf yr ysgol lle disgwylir bydd mwy o bobl yn mynd o le i le ac yn mwynhau traethau, parciau ac ardaloedd gwyrdd eraill y ddinas.
Ar gyfer misoedd prysur yr haf, mae'r cyngor wedi bod yn cynyddu nifer y casgliadau sbwriel ar y traeth ac yn cynyddu nifer y biniau sydd ar gael.
Galwyd ar staff ychwanegol a byddant ar batrôl gyda'r nos mewn mannau lle ceir llawer o sbwriel, gan gael gwared ar wastraff a dosbarthu sachau casglu sbwriel i grwpiau sydd allan am y noson.
Mae'r cyngor wedi cyflwyno 15 o finiau coch fel y gall pobl gael gwared ar eu gwastraff o farbeciws yn ddiogel ar ei draethau prysuraf. Mae hefyd yn gosod biniau newydd yn lle hen finiau sbwriel a baw cŵn a rhai diffygiol o amgylch y ddinas, sef biniau aml-ddefnydd newydd sy'n addas ar gyfer gwastraff cyffredinol a baw cŵn.
Dywedodd Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymunedol, fod y cyngor yn chwarae ei ran wrth gadw traethau a pharciau'n lân wrth i filoedd o bobl deithio i lan môr Abertawe a Phenrhyn Gŵyr yr haf hwn.
Meddai, "Os ydych chi ar y traeth ac yn gweld bod y biniau'n llawn, ewch â'ch sbwriel adref gyda chi yn lle. Os ydych chi'n gweld aelod o'n tîm sbwriel yn codi'r gwastraff, gofynnwch iddo am eich bag eich hun. Byddant yn hapus i rannu."
Yn ystod cyfnod yr haf mae staff y cyngor yn clirio sbwriel a gwastraff o'r traethau bob bore ac maent yn ailymweld yn rheolaidd yn ystod y dydd.