Toglo gwelededd dewislen symudol

Lotto Abertawe, y loteri gymunedol ar gyfer Abertawe yn cael ei lansio.

Lansiwyd ffordd newydd i breswylwyr gefnogi sefydliadau gwirfoddol a chymunedol yn Abertawe ar ddiwedd mis Gorffennaf a gallech ennill drwy gymryd rhan!

lotto generic

Sefydlwyd Lotto Abertawe gan Gyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe (CGGA), gyda chefnogaeth gan Gyngor Abertawe, i gefnogi achosion da lleol. Yr egwyddor y tu ôl i Lotto Abertawe yw bod arian yn cael ei godi o fewn y gymuned ar gyfer y gymuned, gan rymuso achosion da lleol i godi arian mewn ffordd ddifyr ac effeithiol.

Mewn cyfnod pan fo cyllidebau'n lleihau ac angen cymunedol yn cynyddu, mae Lotto Abertawe yn galluogi pobl i gefnogi'r achosion da sydd bwysicaf iddynt, gan helpu achosion da i gysylltu â'u cefnogwyr.

Mae tocyn ar gyfer Lotto Abertawe yn costio £1 yr wythnos, gyda 60c yn mynd yn syth i achosion da, ac mae gwobrau ariannol o hyd at £25,000 i'w hennill bob wythnos.

Ers i'r cyfle i gofrestru achosion da agor ar 16 Gorffennaf, mae mwy na 50 o grwpiau lleol eisoes wedi cofrestru ac yn codi arian drwy'r wefan. Pan fydd pobl yn cofrestru i chwarae, gallant ddewis pa grŵp y mae eu tocyn yn ei gefnogi, neu gallant ddewis cefnogi'r Gronfa Ganolog, a fydd yn creu cronfa grant i'w dosbarthu'n lleol.

Meddai Cyfarwyddwr CGGA, Amanda Carr, "Rydym wedi penderfynu datblygu'r loteri fel ffordd arall i sefydliadau gwirfoddol a chymunedol yn Abertawe allu codi arian mawr ei angen ar gyfer eu hachos.

Mae cannoedd o sefydliadau gwirfoddol a chymunedol yn yr ardal sy'n gwneud Abertawe yn lle gwell i bob un ohonom fyw, ond mae angen incwm parhaus arnynt i ymdopi â galwadau cynyddol ar eu gwasanaethau. Mae pawb sy'n rhan o'r loteri hon ar eu hennill - mae grwpiau'n elwa o incwm anghyfyngedig tymor hir; mae chwaraewyr yn gwybod eu bod yn cefnogi grwpiau yn eu hardal - ac wrth gwrs gallant edrych ymlaen at y tocynnau'n cael eu tynnu ar nosweithiau Sadwrn!

Rydym wedi bod yn lledaenu'r gair i annog grwpiau i gofrestru, ond os nad ydynt, gallant fynd i'r wefan i wneud hynny a dechrau codi arian mewn cyn lleied ag wythnos."

Croesawyd y fenter gan y Cyng. Alyson Anthony, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogaeth Gymunedol.

Meddai, "Os gallwch, cymerwch ran. Sefydlwyd y loteri gan bobl Abertawe ar gyfer pobl Abertawe fel y gall achosion da Abertawe elwa'n uniongyrchol.

"Mae'r gwobrau'n wych, ond hyd yn oed ar yr achlysuron hynny pan nad ydych yn ennill, rydych yn gwybod bod eich cyfraniad yn golygu bod grwpiau a sefydliadau lleol bob amser yn ennill."

Er y cafwyd y loteri gyntaf ddydd Sadwrn 27 Gorffennaf (bydd yn wythnosol o hyn ymlaen), cynhelir Loteri Arbennig ar ddiwedd mis Awst gyda 30 o wobrau lleol ychwanegol i'w hennill gan gynnwys Galaxy Tab, rowndiau o golff, tocynnau i weld perfformiad Jiwbilî Aur Mal Pope yn Arena Abertawe, gwersi syrffio neu sglefrfyrddio a llawer mwy.

Lotto Abertawe - Cefnogwch Achosion Da Lleol - Enillwch wobrau!

Ewch i: www.lottoabertawe.co.uk i chwarae, i gofrestru eich achos da neu i gael rhagor o wybodaeth.

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Awst 2024