Toglo gwelededd dewislen symudol

Pawb yn ennill fel rhan o'r loteri genedlaethol newydd

Mae loteri gymunedol newydd sydd wedi'i sefydlu i gefnogi achosion da lleol yn Abertawe wedi'i chroesawu gan Gyngor Abertawe.

lotto generic

Mae Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe yn cynnal Lotto Abertawe er mwyn codi arian mawr ei angen ar gyfer mwy na 60 o grwpiau a sefydliadau cymunedol ar draws y ddinas.

Gall y rhai sy'n cymryd rhan yn y loteri ddewis pa elusen leol y mae eu cyfraniad yn ei chefnogi.

Meddai Alyson Anthony, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, "Mae prosiect y loteri wedi bod ar waith ers ychydig dros fis erbyn hyn ac mae llawer o bobl eisoes wedi cofrestru i gymryd rhan.

"Mae'r rhai sy'n cymryd rhan yn gwybod hyd yn oed ar yr achlysuron hynny pan nad ydynt yn ennill, bydd rhan o bris eu tocynnau yn mynd tuag at ariannu elusennau a grwpiau lleol pwysig sy'n gwneud pethau gwych yn ein cymunedau.

"Da iawn i CGGA am greu ffordd ddifyr, arloesol o gefnogi achosion da."

Dywedodd y Cynghorydd Anthony fod y loteri yn adlewyrchu uchelgais y Cyngor i weithio gyda grwpiau a sefydliadau ledled Abertawe i ddatblygu rhwydweithiau sy'n cefnogi lles ac iechyd pobl a'u cefnogi drwy'r argyfwng costau byw.

Mae tocyn ar gyfer Lotto Abertawe yn costio £1 yr wythnos, gyda 60c yn mynd yn syth i achosion da, ac mae gwobrau ariannol o hyd at £25,000 i'w hennill bob wythnos.

Meddai Amanda Carr, Cyfarwyddwr CGGA, "Mae Lotto Abertawe yn ffordd wych o annog pobl i gefnogi eu cymunedau lleol.

"Mae busnesau lleol wedi bod yn awyddus i gynnig eu cefnogaeth hefyd a hoffem ddiolch iddynt am roi cyfanswm o 30 o wobrau lleol ar gyfer y Loteri Arbennig sydd ar ddod ar ddiwedd mis Awst."

Lotto Abertawe - Cefnogwch Achosion Da Lleol - Enillwch wobrau!

Ewch i: www.lottoabertawe.co.uk i chwarae, i gofrestru eich achos da neu i gael rhagor o wybodaeth. 

 

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 22 Awst 2024