Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfle i fynegi'ch barn am lwybr cerdded a beicio newydd

Mae preswylwyr yn cael y cyfle i fynegi eu barn am gynigion i lenwi bwlch yn rhwydwaith cerdded a beicio di-draffig cynyddol Abertawe.

cycling stock pic

Cyflwynwyd cynlluniau sy'n bwriadu creu llwybr cerdded a beicio diogel rhwng canolfan chwaraeon Elba yn Nhre-gŵyr a Culfor Road yng Nghasllwchwr ar hyd Pont-y-Cob Road.

Ar hyn o bryd, does dim llwybr troed rhwng y ddau leoliad a'r unig ddarpariaeth ar gyfer beicwyr yw llwybr cynghorol wedi'i baentio ar briffordd gul.

Os caiff y cynigion eu cymeradwyo am gyllid gan Lywodraeth Cymru, gall pobl leol fwynhau cysylltiad diogel a hygyrch a fydd yn helpu i gysylltu'r ddwy gymuned â rhwydwaith llwybrau beicio a cherdded y cyngor, sy'n 120km o hyd.

Dywedodd Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, y bydd y cynllun a gynigir yn welliant sylweddol i bobl sy'n cerdded, beicio a gyrru ar hyd y llwybr hwn.

Meddai, "Dydy'r ffordd rhwng Tre-gŵyr a Chasllwchwr ddim yn addas o gwbl ar gyfer beicwyr a cherddwyr ar hyn o bryd. Does dim llwybr troed a dydy'r lonydd a baentiwyd i feicwyr ar ochrau'r ffordd ddim yn cynnig llawer o ddiogelwch i feicwyr.

"Wrth wraidd y cynllun newydd mae llwybr tri metr o led ar Pont-y-Cob Road, y gall cerddwyr a beicwyr ei rannu, gydag ymyl 0.5m rhwng y llwybr a cherbydau modur."

I fynegi'ch barn am gynlluniau Pont-y-Cob Road, ewch yma: www.abertawe.gov.uk/teithiollesolpontycob

Bydd hefyd sesiwn galw heibio yng Nghanolfan Chwaraeon Elba rhwng 9.30am a 3pm ar 23 Tachwedd a sesiwn galw heibio rithwir y noson ganlynol rhwng 7pm ac 8pm.