Toglo gwelededd dewislen symudol

Llwybr cerdded a beicio hardd Clun ar agor i bawb

Mae rhan o goetir gorau Abertawe bellach ar agor i bawb diolch i lwybr cerdded a beicio newydd sy'n cysylltu'r Olchfa â'r môr drwy Ddyffryn Clun.

cycling stock pic

Mae'r gwaith i uwchraddio llwybr ceffylau'r Olchfa-Dyffryn Clun sy'n cysylltu Gower Road ger Ysgol Gyfun yr Olchfa â glan y môr ger Blackpill wedi'i orffen mewn pryd ar gyfer tymor yr hydref.

Dywedodd Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, fod llawer o'r llwybr yn hygyrch i blant mewn cadeiriau gwthio a'r anabl am y tro cyntaf.

Meddai, "Mae'r gwaith ar y llwybr hwn ac ar y gwaith gwella yn Mayals Road yn rhan o'n rhaglen Teithio Llesol gwerth miliynau o bunnoedd y bwriedir iddi annog pobl i adael eu ceir a mynd ar gefn eu beiciau.

"Ond ar ben hynny, am y tro cyntaf bydd llwybr yr Olchfa-Dyffryn Clun yn agored i deuluoedd â phlant ifanc mewn cadeiriau gwthio a phobl anabl, gan gynnwys y deillion a'r rheini â golwg rhannol.

"Byddant yn gallu mwynhau a chael eu hysbrydoli gan amgylchedd naturiol Dyffryn Clun, rhywbeth y mae eraill wedi gallu'i fwynhau ers tro."

Mae arwyneb y llwybr sy'n un tarmac yn bennaf, wedi'i drin yn arbennig yn unol ag argymhellion Cymdeithas Ceffylau Prydain fel y gall pobl a fwynhaodd y llwybr ar gefn ceffyl barhau i farchogaeth yno.

A thrwy'r cam adeiladu, mae'r cyngor a'i gontractwyr wedi gwneud ymdrech fawr i sicrhau cyn lleied o darfu â phosib i fywyd gwyllt a  phlanhigion lleol.

Meddai'r Cyng. Thomas: "Un o'r pethau gwych am y llwybr ceffyl gwell yw y bydd yn annog rhagor o bobl i ymweld a mwynhau'r amgylchoedd naturiol a chael eu hysbrydoli i feddwl am sut gallan nhw hefyd wneud eu rhan i warchod ein hamgylchedd.

"Roeddem am sicrhau bod cynefinoedd yn cael eu cadw a bod cyn lleied â phosib o darfu fel y byddai gan genedlaethau'r dyfodol gyfle i fwynhau buddion amgylcheddol a lles mynd am dro yn y coetir neu feicio drwyddo. 

"Dyna un o'r rhesymau pam yr aethom ati i gomisiynu astudiaeth ecolegol a chyflogi ecolegydd i weithio gyda'r tîm adeiladu'n ddyddiol."

Meddai'r Cyng. Thomas: "Roeddem am sicrhau bod cynefinoedd yn cael eu cadw a bod cyn lleied â phosib o darfu fel y byddai gan genedlaethau'r dyfodol gyfle i fwynhau buddion amgylcheddol a lles mynd am dro yn y coetir neu feicio drwyddo.

"Dyna un o'r rhesymau pam yr aethom ati i gomisiynu astudiaeth ecolegol a chyflogi ecolegydd i weithio gyda'r tîm adeiladu'n ddyddiol."

Meddai'r Cyng. Thomas: "Drwy gydol y pandemig, roeddem yma i bobl Abertawe ac un o'r pethau y sylwom oedd bod mwy o bobl yn darganfod Dyffryn Clun am y tro cyntaf fel rhan o'u harfer ymarfer corff.

"Yn awr, wrth i ni ddod allan o'r pandemig, rydym am iddynt barhau i ddod yma a dod â'u teuluoedd a'u ffrindiau gyda nhw fel y gall pawb fwynhau un o drysorau gwyrdd ein dinas." 

 

 

Close Dewis iaith