Toglo gwelededd dewislen symudol

50 mlynedd yn ôl: Prosiect yr M4 dan arweiniad y cyngor yn lleddfu tagfeydd yn Nhreforys

Arbedwyd cenhedlaeth gyfan o fodurwyr rhag golygfa a fu unwaith yn gyfarwydd iawn - ciwiau traffig drwyn wrth gynffon wrth i draffig lleol a thrwodd gymysgu ar hen gefnffordd yr A48 o Gaerdydd i Gaerfyrddin a oedd yn rhedeg drwy ganol Treforys.

Advertising sign - M4 expanded near Morriston

Advertising sign - M4 expanded near Morriston

Fis diwethaf, nodwyd 50 mlynedd ers agor ffordd osgoi Treforys, ffordd newydd a adeiladwyd i safonau traffordd ac a ymgorfforwyd yn y pen draw i'r M4.

Bu Cyngor Dinas Abertawe ar y pryd yn gweithio gyda Swyddfa Gymreig Llywodraeth y DU ac eraill i gyflwyno'r prosiect ffordd newydd ym 1972.

Mae ein lluniau - o Archifau Gorllewin Morgannwg - yn cynnig blas o sut beth oedd moduro ar yr A48 a sut siapiwyd y rhan newydd o'r draffordd.

Lluniwyd a goruchwyliwyd y prosiect - ffordd 4.5 milltir o hyd i osgoi Treforys, a redai o Lôn-las i Langyfelach - gan dîm prosiect a sefydlwyd ar gyfer y Swyddfa Gymreig gan beirianwyr a oedd yn gweithio ar ran yr hen gyngor sir.

Y prif gontractwr oedd John Laing Construction.

Roedd yn cynnwys cloddio craig a glo, adeiladu 14 o bontydd a chroesfannau dros afon Tawe a Chamlas Tawe a rheilffordd prif linell. Roedd angen dargyfeirio prif linellau cyfleustodau cenedlaethol.

Agorwyd y cyswllt hanfodol yn ffurfiol ar 16 Medi 1972 gan Ysgrifennydd Cymru ar y pryd, Peter Thomas. Roedd rhai rhannau eraill o M4 Cymru eisoes wedi'u hadeiladu.

Credwyd mai prosiect Treforys, a oedd hefyd yn osgoi Llansamlet, oedd y tro cyntaf i fwrdeistref sirol arwain prosiect i gyflwyno rhan o rwydwaith traffyrdd cenedlaethol y DU.

Roedd y gwaith adeiladu, gan gynnwys gwaith paratoadol, wedi cymryd bron tair blynedd, gan gostio £4m, a bu angen 200 o arwyddion ffyrdd newydd.

Prif beiriannydd y prosiect ar gyfer y cyngor oedd Henry Steane sy'n dal i fyw yn Abertawe.

The under-construction Ynysforgan roundabout

Yn edrych i'r gorllewin dros gylchfan Ynysforgan wrth iddo gael ei adeiladu a chyffordd 45 yr M4. Mae'r ffordd i Glydach yn anelu am y dde, a'r ffordd i Abertawe'n mynd i'r chwith. Llun: Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

Traffic congestion in 1972 on the A48 at Morriston Cross

Golwg o'r tagfeydd traffig rheolaidd ar yr A48 wrth Groes Treforys yn gynnar yn y 1970au. Cynorthwywyd miloedd o fodurwyr gan y gwaith hwn ar y rhan newydd o'r M4 gerllaw.  Llun: Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

A new M4 bridge goes up.

Gweithwyr adeiladu'n gwylio ar ddiwedd 1971 wrth i drawstiau concrit gael eu gosod yn ofalus i helpu i greu un o bontydd newydd yr M4 i'r gogledd o Abertawe. Llun: Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

A new bridge is put in place over the River Tawe.

Medi 1971: Rhannau o bont goncrit newydd yn cael eu gosod dros afon Tawe. Llun: Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

The under-construction Ynysforgan roundabout.

Yn edrych i'r dwyrain dros gylchfan Ynysforgan wrth iddo gael ei adeiladu a chyffordd 45 yr M4. Mae'r ffordd i Glydach yn anelu am y chwith oddi ar y gyffordd, ac mae'r ffordd i Abertawe'n mynd i'r dde. Llun: Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg