Toglo gwelededd dewislen symudol

Marchnata symudol ar gerbydlu'r cyngor

Beth am wneud eich hysbyseb yn un symudol gyda'r ffordd unigryw a deniadol hon o greu ymwybyddiaeth o'ch brand?

Mae mwy na 50 o gerbydau casglu ailgylchu a mwy na 250 o gerbydau cynnal a chadw yn y cerbydlu a, rhyngddynt, maent yn ymweld â phob aelwyd yn y ddinas.

Mae hysbysebu ar gerbydau'n creu cynfas symudol i hyrwyddo'ch busnes i breswylwyr a'r gymuned leol gan nad yw'r cerbydau byth yn gadael y ffyrdd. Mae hon yn ffordd berffaith i fusnesau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol hyrwyddo'u cynnyrch a'u gwasanaethau, yn ogystal â'u cysylltiad â Chyngor Abertawe.

Manteision i hysbysebwyr

Mae'n unigryw gan mai un neu ddau banel hysbysebu'n unig sydd gan bob cerbyd (gan ddibynnu ar y cerbyd) ar gyfer un hysbysebwr.

Mae'r paneli'n gallu gwrthsefyll y tywydd ac maent yn ailddefnyddiadwy. Mae'r cynnwys mewn lliw llawn ac yn hyblyg, gyda logo, cyfeiriad gwefan a manylion ffeithiol eraill.

Gellir targedu mannau penodol yn y ddinas neu'r gymuned gyfan, gan helpu i greu cydnabyddiaeth o'ch brand ymhlith y cynulleidfaoedd cywir.

Mae'r ffi'n cynnwys pris cynhyrchu'r hysbyseb a'i gosod. Rhaid i'r cleient ddarparu gwaith celf syn barod i'w argraffu.

Dyma enghraifft o farchnata symudol ar gerbyd cynnal a chadw

Fan transit pellter byr rhwng echelydd

  • Cynigir hysbysebu ar o leiaf 5 cerbyd.
  • 5 cerbyd am £1000 + TAW yr wythnos. Cyfanswm = £5000 + TAW y flwyddyn, fesul cerbyd.
  • Mae hyn yn cynnwys argraffu 3 sticer finyl fesul cerbyd, a'u gosod.
  • Ar ôl hynny, y cleient fydd yn talu am newid copi.
  • Rhaid i'r cleient ddarparu gwaith celf wedi'i gwblhau sy'n barod i'w argraffu.
  • Cynigir gwasanaeth dylunio mewnol. Ceir pris ar gais.

Dyma enghraifft o farchnata symudol ar gerbyd gwastraff

Y llwyfan delfrydol i hyrwyddo eich neges ecolegol

2 ochr o gerbyd gwastraff

Cyfanswm maint y panel yw 8 troedfedd x 4 troedfedd. Fodd bynnag, defnyddir 2 droedfedd x 4 troedfedd ar gyfer hysbyseb hyrwyddo fewnol. Mae pob panel sydd ar gael yn 6 throedfedd x 4 troedfedd. Mae'r cerbydau'n teithio ar hyd prif ffyrdd a ffyrdd ochr, rhodfeydd a ffyrdd pengaead, gan gynnig gwelededd gwych.

  • 52 wythnos am 2 ochr 1 cerbyd = £5000 gan gynnwys pris cynhyrchu
  • Ar ôl hynny, y cleient fydd yn talu am newid copi
  • Rhaid i'r hysbysebwr ddarparu gwaith celf wedi'i gwblhau sy'n barod i'w argraffu
  • Bydd Cyngor Abertawe'n ei argraffu a'i osod
  • Cynigir gwasanaeth dylunio mewnol. Ceir pris ar gais.

Mae'n rhaid i Gyngor Abertawe gymeradwyo cynnwys y copi cyn ei argraffu. Yn anffodus, nid ydym yn gallu derbyn unrhyw hysbysebu sy'n ymwneud ag alcohol neu dybaco, neu unrhyw beth arall a all wrthdaro â Chyngor Abertawe.

Close Dewis iaith