Toglo gwelededd dewislen symudol

Marchnad Abertawe - Ffurflen gais ar gyfer masnachu achlysurol

Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i wneud cais am lain masnachu achlysurol ym Marchnad Abertawe.

Mae masnachu achlysurol ym Marchnad Abertawe yn cynnig cyfle i brofi syniad busnes newydd neu fasnachu ar sail ad hoc mewn cyrchfan siopa sefydledig a llwyddiannus. Nid oes unrhyw ymrwymiad tymor hir ac mae'r gyfradd ddyddiol yn cynnig gwerth da am arian.

Mae Marchnad Abertawe eisoes yn cynnig ystod eang o nwyddau a gwasanaethau, felly rydym yn chwilio am fasnachwyr achlysurol sy'n gallu cynnig rhywbeth ychydig yn wahanol.   

Defnyddiwch y ffurflen gais hon i ddweud cymaint â phosib wrthym am eich busnes a'r cynhyrchion yr hoffech eu gwerthu. Lanlwythwch luniau neu nodwch ddolen i'ch gwefan os oes un gennych.

Sicrhewch eich bod wedi darllen yr Arweiniad i fasnachu achlysurol ym Marchnad Abertawe a'r amodau a thelerau cyn cyflwyno'r cais hwn.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Chwefror 2024