Toglo gwelededd dewislen symudol

Diwrnod hwyl am ddim i lansio ardal chwarae Mayhill

Gwahoddir teuluoedd ifanc ym Mayhill i ddiwrnod hwyl cymunedol am ddim ddydd Sul lle caiff yr ardal chwarae newydd ei hagor yn swyddogol.

mayhill play area artist impression

Fe'i cynhelir rhwng 11am a 3pm ac mae'n cynnwys adloniant am ddim i blant, atgyweiriadau beiciau am ddim gan y Bike Doctor a mwy.

Mae'r ardal chwarae newydd yn cynnwys llinell sip, rowndabowt sy'n addas i gadeiriau olwyn, siglenni, si-so, llithren, parth i blant bach ac ardal ddringo.

Gwnaed gwelliannau hefyd i'r ardal gemau amlddefnydd.

Mae Cyngor Abertawe wedi ymrwymo i wella'r holl ardaloedd chwarae yn y ddinas sy'n eiddo i'r cyngor ac mae'n buddsoddi £5m yn y cynllun.

I gael gwybod mwy am y genhedlaeth newydd o ardaloedd chwarae sy'n cael eu creu yn Abertawe, ewch i https://www.abertawe.gov.uk/lleoeddchwaraenewydd