Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith yn dechrau'r wythnos hon ar ardal chwarae newydd ar gyfer Mayhill.

Mae preswylwyr a phlant lleol wedi bod yn rhan o ddylunio'r cyfleuster a dewis yr offer ar gyfer Parc Mayhill.

mayhill play area artist impression

Mae'r rhain yn cynnwys siglenni, llithren, rhaffbont 25 metr, rowndabowt addas i gadeiriau olwyn ac eitemau cyfarpar difyr eraill.

Disgwylir i gontractwyr ddechrau gweithio ar y safle yr wythnos hon ac os yw'r tywydd yn caniatáu, maent yn gobeithio gorffen y prosiect erbyn i'r plant orffen ysgol ar gyfer y gwyliau Nadolig.

Mae'n un o 60 o ardaloedd chwarae ar draws Abertawe sy'n cael eu hailwampio gan y cyngor gyda bron £4m yn cael ei fuddsoddi dros y 18 mis nesaf.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Sefydlwyd Grŵp Cyfeillion yn Mayhill gan y gymuned sydd wedi bod yn gweithio gyda chynghorwyr ward a swyddogion i gyflwyno'r prosiect ac rwyf wrth fy modd ei fod yn cael ei ddatblygu.

"Bydd pob ward yn Abertawe yn cael cyfran o'r cyllid. Hyd yn hyn mae mwy na 30 o leoedd chwarae mwn parciau a chymunedau ar draws y ddinas wedi cael eu huwchraddio neu mae cynlluniau ar y gweill i wneud hyn, ac mae'r cyngor yn ddiweddar wedi cyhoeddi mwy fyth o gyllid felly bydd tua 30 arall yn cael eu gwella yn y misoedd i ddod."

Dywedodd Andrew Stevens, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wella Busnes a Pherfformiad Busnes, fod y fenter ardal chwarae eisoes wedi bod yn boblogaidd iawn ymhlith pobl ifanc.

"Dyma'r buddsoddiad mwyaf mewn ardaloedd chwarae cymunedol a welwyd erioed yn Abertawe, ac mae'r adborth wedi bod yn wych. Mae gweld yr ardaloedd chwarae newydd sydd wedi'u cwblhau hyd yn hyn yn cael eu defnyddio mor helaeth yn rhoi boddhad mawr."

 

Close Dewis iaith