Ychwanegiad newydd at rwydwaith Men's Shed Abertawe ym Mharc Victoria
Mae menter arloesol sydd â'r nod o feithrin cyfeillgarwch, rhannu sgiliau a chefnogaeth gymdeithasol ymhlith dynion sy'n byw mewn cymuned yn Abertawe newydd ei lansio ym Mharc Victoria poblogaidd y ddinas.
Men's Shed Victoria Saints yw ei henw ac mae gan ei chefnogwyr uchelgeisiau i ddatblygu'r fenter ar lawnt fowlio'r parc fel y man lleol gorau i ddynion gysylltu, dysgu a chyfrannu at eu cymuned leol.
Men's Shed Victoria Saints yw'r ychwanegiad diweddaraf at rwydwaith Abertawe a gefnogir gan y Cyngor, ac mae wedi derbyn gwerth £100,000 mewn grantiau dros y pedair blynedd diwethaf.
Bydd Men's Shed Victoria Saints yn agor ei drysau bob dydd Llun rhwng 11am ac 1pm i gynnig lluniaeth, sgyrsiau a syniadau ar gyfer dynion o bob oedran a chefndir gan gynnig cyfleoedd i feithrin cyfeillgarwch parhaus.
I gael rhagor o wybodaeth am Men's Shed Victoria Saints, cysylltwch â'r ysgrifennydd Rowland Thomas yn victoriasaints1909@outlook.com neu ffoniwch 07972080502