Toglo gwelededd dewislen symudol

Yr anrhydedd uchaf i Gymdeithas y Llynges Fasnachol

Mae Rhyddid y Ddinas wedi'i ddyfarnu i Gymdeithas y Llynges Fasnachol .

merchant navy assn freedom

Ar 22 Gorffennaf, dyfarnodd y Cyngor Llawn fraint uchaf y ddinas i gangen y gymdeithas yn Abertawe fel arwydd o barch am yr aberthau a wnaed gan y morwyr masnachol yn ystod yr Ail Ryfel Byd a brwydrau eraill.

Dywedodd Wendy Lewis, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog y cyngor, eu bod yn llawn haeddu'r anrhydedd ac y byddai'n helpu i goffáu rôl y Llynges Fasnachol yn y gymuned forol

Meddai'r Cyng. Lewis, "Sefydlwyd Cymdeithas y Llynges Forol yn Abertawe ym 1998 yn wreiddiol i godi arian ar gyfer cofeb barhaol i'r rheini a wnaeth yr aberth eithaf yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

"Saif y gofeb yn ardal SA1 ac mae'n fan pererindod i deuluoedd y bobl a fu farw. Nid yw ond yn iawn bod cangen leol Cymdeithas y Llynges Fasnachol yn derbyn yr anrhydedd 75 mlynedd ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Cytunodd y Cyngor Llawn i ddyfarnu'r anrhydedd ddinesig uchaf i Gymdeithas y Llynges Fasnachol y llynedd. Felly mae'n wych ar ôl y pandemig ein bod wedi gallu gwahodd ei haelodau i Siambr y Cyngor i dderbyn yr anrhydedd.

"Gall fod yn hawdd anghofio bod 90% o fewnforion y DU, gan gynnwys hanner y bwyd rydyn ni'n ei fwyta, yn ein cyrraedd dros y môr. Mae arnom ddyled o ddiolchgarwch i forwyr y DU am eu cyfraniadau yn ystod rhyfeloedd a chyfnodau o heddwch."  

Meddai'r Arglwydd Faer, y Cyng. Mike Day, "Mae Cymdeithas y Llynges Fasnachol yn parhau i wneud cyfraniad gwerthfawr i fywyd yn ein dinas, a nawr ei bod hi'n ddiogel gwneud hynny, roeddwn yn edrych ymlaen at gadeirio cyfarfod cyngor seremonïol i gydnabod ei gwaith.

"Fel eraill yn y cyngor, mae gennym berthnasau sydd wedi gwasanaethu ac sy'n gwasanaethu yn y Llynges Fasnachol, gan wneud hyn yn ddigwyddiad hynod bersonol ac yn anrhydedd a gyflwynir gan yr holl ddinas."

Ymhlith y rheini sydd eisoes wedi derbyn Rhyddid er Anrhydedd y Ddinas yn y gorffennol mae HMS Scott, Gwarchodlu Marchfilwyr Cyntaf y Frenhines a Chatrawd 157 (Cymru) y Corfflu Logisteg Brenhinol (CLB). Mae'r arwr rygbi Alun Wyn Jones a'r actores sydd wedi ennill gwobr Oscar, Catherine Zeta-Jones, hefyd wedi derbyn yr anrhydedd.

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 22 Gorffenaf 2022