Toglo gwelededd dewislen symudol

Yr anrhydedd uchaf i Gymdeithas y Llynges Fasnachol

Bwriedir cyflwyno Rhyddid er Anrhydedd y Ddinas i Gymdeithas y Llynges Fasnachol yn Abertawe.

View of Swansea and the Bay from Kilvey Hill

Ar 22 Gorffennaf, bydd y Cyngor Llawn yn dyfarnu braint uchaf y ddinas i gangen y gymdeithas yn Abertawe fel arwydd o barch am yr aberthau a wnaed gan y morwyr masnachol yn ystod yr Ail Ryfel Byd a brwydrau eraill.

Dywedodd Wendy Lewis, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog y cyngor, eu bod yn llawn haeddu'r anrhydedd ac y byddai'n helpu i goffáu rôl y Llynges Fasnachol yn y gymuned forol.

Meddai'r Cyng. Lewis, "Sefydlwyd Cymdeithas y Llynges Forol yn Abertawe ym 1998 yn wreiddiol i godi arian ar gyfer cofeb barhaol i'r rheini a wnaeth yr aberth eithaf yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

"Saif y gofeb yn ardal SA1 ac mae'n fan pererindod i deuluoedd y bobl a fu farw. Nid yw ond yn deg bod cangen leol Cymdeithas y Llynges Fasnachol yn derbyn yr anrhydedd 75 mlynedd ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd."

Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Cytunodd y Cyngor Llawn i ddyfarnu'r anrhydedd ddinesig uchaf i Gymdeithas y Llynges Fasnachol y llynedd. Felly mae'n wych y byddwn bellach yn gallu gwahodd ei haelodau i Siambr y Cyngor i dderbyn yr anrhydedd.

"Gall fod yn hawdd anghofio bod 90% o fewnforion y DU, gan gynnwys hanner y bwyd rydyn ni'n ei fwyta, yn ein cyrraedd dros y môr. Mae arnom ddyled o ddiolchgarwch i forwyr y DU am eu cyfraniadau yn ystod rhyfeloedd a chyfnodau o heddwch."  

Meddai'r Arglwydd Faer, y Cyng. Mike Day, "Mae Cymdeithas y Llynges Fasnachol yn parhau i wneud cyfraniad gwerthfawr i fywyd yn ein dinas, a phan fydd yn ddiogel gwneud hynny, edrychaf ymlaen at gadeirio cyfarfod cyngor seremonïol i gydnabod ei gwaith."

Cynhelir y digwyddiad seremonïol ddydd Gwener, 22 Gorffennaf am 2pm. Mae croeso i aelodau'r cyhoedd wylio'r digwyddiad ar-lein yma: https://democracy.swansea.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=177&MId=10908&LLL=0

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Gorffenaf 2022