Toglo gwelededd dewislen symudol

Eich cyfle i barcio am ddim yng nghanol dinas Abertawe ar 22 a 23 Gorffennaf

Mae Cyngor Abertawe'n cynnig parcio am ddim i fodurwyr yn holl feysydd parcio canol y ddinas a restrir ar ei wefan* ar 22/23 Gorffennaf.

car park 2

Mae'r cynnig parcio am ddim yn rhan o becyn o gymorth i ymwelwyr a busnesau canol y ddinas, gan helpu i annog mwy o bobl i ymweld â'r ardal.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae'n bleser gennym gynnig rhagor o barcio am ddim y penwythnos nesaf. Rydym eisoes wedi cynnig dau benwythnos o barcio am ddim a daw'r cynnig diweddaraf hwn fel cyflwyniad i'n cynnig parcio 1-5 ar 24 Gorffennaf.

"Mae'r cynnig 1-5 yn golygu bod pobl sy'n parcio yn ein meysydd parcio yng nghanol y ddinas - ac eithrio maes parcio premiwm De Bae Copr - yn talu £1 yr awr ac uchafswm o £5 am y diwrnod cyfan.

"Bydd y cynnig yn golygu bod Abertawe'n un o'r canol dinasoedd rhataf o ran parcio ar gyfer siopwyr a phobl sy'n gweithio yng nghanol y ddinas."

Ychwanegodd y Cynghorydd Stewart, "Mae'r cynnig bysus am ddim hefyd yn dychwelyd i'r ddinas ar gyfer gwyliau haf yr ysgol, a fydd yn rhoi cyfle i deuluoedd fynd ar ddiwrnodau mas i'n traethau a theithiau siopa yng nghanol y ddinas."

*nid yw parcio am ddim ar gael ym maes parcio aml-lawr Bae Copr.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 13 Gorffenaf 2023