Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Rhagor o doiledau 'Changing Places' yn yr arfaeth ar gyfer Abertawe.

Bydd dau doiled 'Changing Places' newydd yn cael eu cyflwyno yn Knab Rock a Rhosili fel rhan o fuddsoddiad gwerth £300,000 i wella cyfleusterau toiledau cyhoeddus Abertawe.

Changing Places Icon

Mae 'Changing Places' yn gyfleusterau arbenigol i bobl sy'n byw gydag anableddau cymhleth ac maent yn rhan o ymrwymiad i wella hygyrchedd cyrchfannau poblogaidd ar draws Abertawe.

Dywedodd Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymunedol, y disgwylir i waith ar y cyfleusterau Changing Places gychwyn yn y misoedd i ddod ac y byddai'n amodol ar  ganiatâd cynllunio.

Meddai, "Rydym wedi cytuno i geisio caniatâd cynllunio ar gyfer Changing Places yn Knab Rock a Rhosili oherwydd bod adborth o ymgynghoriad ag amrediad o grwpiau'n dangos bod pobl anabl am gael yr un lefel o fynediad i'r lleoliadau hynod boblogaidd hyn â phawb arall."

Ychwanegodd y Cyng. Anderson, "Rydym eisoes wedi adnewyddu'r toiledau cymunedol yng Nghlydach ac yn y Gerddi Botaneg ym Mharc Singleton ac mae rhagor o waith yn yr arfaeth ar gyfer cyfleusterau eraill hefyd.

"Rydym yn cyflwyno arwyddion newydd, modern ym mhob un o'n toiledau fel y gall pobl gael yr holl wybodaeth angenrheidiol am amserau agor a lleoliadau cyfleusterau eraill gan ddefnyddio codau QR i chwilio am fanylion gan ddefnyddio'u ffonau clyfar."

Ychwanegodd, "Mae toiledau cyhoeddus yn bwysig i ni gyd. Mae'r cyngor yn buddsoddi'n drwm mewn gwella cyfleusterau yn ogystal â'u glanhau a'u cynnal a chadw. Ond rydym yn nwylo'r cyhoedd ac mae angen i bawb chwarae eu rhan wrth drin toiledau gyda pharch a dweud wrthym yn brydlon am unrhyw ddiffygion neu bryderon.

"Mae'n hawdd gwneud hyn drwy ffôn clyfar. Ewch i'r wefan yn https://www.abertawe.gov.uk/toiledaucyhoeddus"

Mae'r pecyn o fesurau'n rhan o addewidion ymrwymiadau polisi a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn ym mis Gorffennaf, a addawodd y byddai cynnydd yn cael ei wneud ar amrywiaeth o flaenoriaethau sydd o bwys i bobl Abertawe o fewn 100 niwrnod.

Mae rhestr a map rhyngweithiol o fwy na 30 o doiledau cyhoeddus o gwmpas Abertawe i'w chael yma: https://www.abertawe.gov.uk/toiledaucyhoeddus