Rhagor o ardaloedd chwarae awyr agored yn yr arfaeth fel rhan o fuddsoddiad gwerth £8m.
Bydd miloedd o blant mewn cymunedau ar draws Abertawe yn elwa o'r rownd ddiweddaraf o fuddsoddiad yn ardaloedd chwarae ein dinas.
Mae Cyngor Abertawe wedi uwchraddio mwy na 60 o ardaloedd chwarae cymunedol ar draws y ddinas a bydd ardaloedd chwarae mewn rhagor o gymdogaethau'n cael eu gwella dros y misoedd sy'n dod.
Mae'r prosiectau a'r gwelliannau'n rhan o ymrwymiad parhaus y cyngor i fuddsoddi mewn ardaloedd chwarae am ddim, a'r mis diwethaf cytunodd y cyngor i roi £1m pellach iddynt yn y flwyddyn sy'n dod, gan olygu bod cyfanswm o £8 wedi'i fuddsoddi hyd yn hyn.
Mae ardaloedd chwarae Graigola Road yn y Glais, Fairwood Road yn West Cross a Pharc Underhill ymysg y rhai a fydd yn cael eu gwella.
Mae gwelliannau pellach newydd gael eu cwblhau ym Mharc Polly yn Foxhole Road, St Thomas a lle chwarae Brynmelyn yn Townhill. Mae trampolîn a charwsél newydd wedi'u gosod yn lle chwarae Rhydypandy ac mae carwsél arall wedi'i osod yn lle chwarae Herbert Thomas Way.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae'n bosib mai ein buddsoddiad mewn chwarae awyr agored i blant a phobl ifanc yw'r buddsoddiad mwyaf o'i fath yn y DU yn y blynyddoedd diweddar.
"Dywed yr holl arbenigwyr mor bwysig yw hi i blant allu defnyddio cyfleusterau chwarae awyr agored am ddim er mwyn cymdeithasu â ffrindiau a theulu. Mae'r adborth rydym yn ei gael gan ddefnyddwyr wedi bod yn wych ac mae'n dangos y gwahaniaeth y mae'r gwelliannau'n eu gwneud yn eu cymdogaethau.
"Mae'n rhan o'n hymrwymiad i fynd i'r afael â thlodi, cefnogi teuluoedd drwy'r argyfwng costau byw a hyrwyddo lles ym mhob un o'n cymunedau."
Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae ein cenhedlaeth newydd o ardaloedd chwarae'n wirioneddol gynhwysol, ac yn croesawu plant ag anableddau i chwarae a mwynhau ardaloedd awyr agored.
"Mae'r gwelliannau ar gyfer y Glais, Fairwood Road a Pharc Underhill hefyd yn cynnwys cyfleusterau fel siglenni, rowndabowts, unedau aml-chwarae a llithrennau.
"Mae Parc Polly hefyd wedi elwa'n ddiweddar o uned aml-chwarae a siglen we newydd.
Meddai, "Mae'r fenter hon yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod gan gymdogaethau Abertawe fynediad at fannau diogel a chyffrous er mwyn cael hwyl yn yr awyr agored."