Cymuned yn y ddinas i dderbyn hwb bancio
Bydd cymuned yn y ddinas yn derbyn hwb bancio dros dro newydd wrth iddynt aros i gartref parhaol gael ei adeiladu.
Mae Capel y Tabernacl yn Nhreforys, gyda chefnogaeth Cyngor Abertawe, wedi cytuno trosglwyddo ystafelloedd i weithredwyr yr hwb, Cash Access UK, wrth i waith fynd rhagddo i ddatblygu cartref parhaol yn Woodfield Street.
Mae'r cartref dros dro hwn ar gyfer yr hwb bancio'n golygu bod preswylwyr a busnesau lleol sy'n gwsmeriaid unrhyw fanc yn gallu parhau i gael mynediad at amrywiaeth eang o wasanaethau ariannol.
Mae Cash Access UK yn cynnal nifer o hybiau bancio ar draws Cymru a bydd yr un yn Nhreforys yn agor yn hen safle Halifax yn Woodfield Street.
Y syniad y tu ôl i'r hybiau yw creu gwasanaeth cymunedol lle gall cwsmeriaid gwblhau busnes bancio arferol yn ystod oriau bancio arferol a hefyd cael y cyfle i siarad â'u banciau am broblemau mwy cymhleth ar y diwrnod y bydd eu banc yn yr hwb.
Yn yr hwb newydd yn Woodfield Street, bydd bancwyr cymunedol yn gweithio ar gylchdro, a bydd banc gwahanol ar gael ar bob dydd o'r wythnos.