Mae pawb yn cyfrif yn yr her natur ryngwladol
Mae'r adeg pan gynhelir un o ddigwyddiadau natur rhyngwladol mwyaf y flwyddyn yn nesáu - a gallwch chi fod yn rhan ohono.

CynhelirCity Nature Challenge 2025, digwyddiad rhyngwladol sy'n ymroddedig i ddogfennu bioamrywiaeth, rhwng 25 a 28 Ebrill.
Mae thema eleni sef dod â'r byd ynghyd dros fioamrywiaeth yn tynnu sylw at bwysigrwydd cyfraniadau lleol i ymdrechion cadwraeth byd-eang.
Mae Cyngor Abertawe yn arwain cyfranogiad gan sefydliadau a grwpiau lleol ac yn annog unigolion, teuluoedd a grwpiau cymunedol i archwilio natur yn eu hamgylchoedd.
Mae'r holl bethau gwyllt a welir, boed mewn parciau, gerddi neu hyd yn oed ar y ffordd i'r siopau, yn cyfrif.
Mae angen i gyfranogwyr dynnu lluniau o'r bywyd gwyllt y maent yn ei weld yn ystod diwrnodau'r her a lanlwytho'u canfyddiadau i'r ap iNaturalist sydd am ddim erbyn 4 Mai.
Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Andrew Stevens, "Dyma'r drydedd flwyddyn y mae Abertawe wedi cymryd rhan, ac rydym yn falch iawn o allu gwahodd pawb i gymryd rhan a mynd ati i ddarganfod a chofnodi ein bywyd gwyllt anhygoel.
"Mae bron 30 o ddigwyddiadau trefnedig yn cael eu cynnal ar draws y ddinas, a'r unig beth sydd ei angen arnoch i gymryd rhan yw ffôn clyfar a'r ap iNaturalist."
Mae'r her yn rhan o ymdrechion ehangach Cyngor Abertawe i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd a'r argyfwng natur, gan atgyfnerthu ymrwymiad y ddinas i gadwraeth bioamrywiaeth.
I gael rhagor o fanylion am ddigwyddiadau eleni, mynediad at yr ap a sut i gymryd rhan, ewch i Digwyddiadau amgylcheddol - Ebrill - Abertawe