Urddo cynghorydd hirsefydlog i gynrychioli ein dinas
Mae dau o gynghorwyr hwyaf eu gwasanaeth Abertawe wedi'u hurddo'n Arglwydd Faer ac yn Ddirprwy Arglwydd Faer ar ôl seremoni arbennig yn Neuadd y Ddinas Abertawe heddiw - 16 Mai.
Mae'r Cyng. Cheryl Philpott yn olynu Paxton Hood-Williams i fod yn Arglwydd Faer ar gyfer 2025/26 a'i dirprwy fydd y Cyng. Penny Matthews.Mae'r Cyng. Philpott, sydd wedi bod yn aelod o ward Sgeti ers 2004, wedi dechrau yn y rôl yn dilyn seremoni urddo yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas.
A hithau'n Arglwydd Faer, bydd gan y Cyng. Philpott rôl ddinesig a seremonïol bwysig wrth gynrychioli ein dinas yn swyddogol. Bydd hefyd yn helpu i godi arian er achosion da lleol.
Meddai'r Cyng. Philpott, "Mae'n anrhydedd ac yn fraint enfawr cael gwasanaethu cymunedau Abertawe fel yr Arglwydd Faer dros y flwyddyn nesaf.
"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fynd hwnt ac yma i gwrdd â phobl y ddinas wych hon, yn ogystal â chynrychioli Abertawe i ymwelwyr ac fel llysgennad ar adeg gyffrous iawn."
Fel rhan o'i blwyddyn yn y swydd, mae'r Arglwydd Faer yn aml yn dewis elusennau i'w cefnogi drwy ddigwyddiadau codi arian. Eleni, mae'r Cyng. Philpott wedi dewis cefnogi apêl 'Mynd y filltir ychwanegol ar gyfer canser' Elusen Iechyd Bae Abertawe. Dyma elusen leol yng Nghanolfan Ganser De-orllewin Cymru yn Ysbyty Singleton.
Ganed y Cyng. Philpott yng Nghaerlŷr a symudodd i Abertawe pan oedd yn 12 oed. Mae'n priodoli ei hymagwedd hyblyg a'i gallu i ymaddasu i'r symudiadau a'r profiad o fynychu tair ysgol uwchradd mewn tair blynedd; y drydedd ohonynt oedd Ysgol Ramadeg Tregŵyr i Ferched.
Priododd â Steve a chawsant dri o blant, cyn symud i Sgeti ym 1981. Mynychodd y plant Ysgol Gynradd Sgeti, ac yna ysgolion uwchradd lleol yr Esgob Gore a'r Olchfa.
Er bod Steve wedi gweithio ym mhob rhan o'r DU a thramor, roedd Cheryl yn chwarae rhan weithredol yng nghymuned Sgeti. Mae wedi bod yn Gadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Sgeti ac yn Ysgol Gynradd Parkland, yn llywodraethwr yn Ysgol Gyfun yr Olchfa ac ar hyn o bryd mae'n llywodraethwr yn Ysgol Gyfun yr Esgob Gore.
Cafodd Cheryl ei hethol i gynrychioli ward Sgeti yn etholiadau lleol 2004 ac mae wedi bod yn falch o wasanaethu trigolion Sgeti ers hynny.
Mae Cheryl a Steve yn dwlu ar deithio, yn enwedig i safleoedd hanesyddol yn y DU a thramor, ac mae'r ddau wrth eu boddau'n darllen nofelau trosedd yn eu hamser sbâr.