Toglo gwelededd dewislen symudol

Cenhedlaeth newydd o hybiau beiciau ar gyfer cymudwyr a siopwyr

Diogel, cadarn a diddos - dyna'r addewid y tu ôl i genhedlaeth newydd o hybiau storio beiciau ar safle parcio a Theithio Fabian Way Cyngor Abertawe ac ym meysydd parcio'r Cwadrant.

bike hub fabian way

Mae gan Abertawe dros 120km o rai o lwybrau beicio a cherdded harddaf Cymru, gyda mwy wedi'u cynllunio ar gyfer y misoedd nesaf.

Yn ychwanegol i hynny mae hefyd wedi sefydlu hybiau beiciau dynodedig ar y safle parcio a theithio ac ym maes parcio'r Cwadrant fel y gall beicwyr brwd gadw eu beiciau'n ddiogel rhag dwyn a'r tywydd.

Dywedodd Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, fod hwb beicio'r Cwadrant yn bennaf ar gyfer siopwyr, ymwelwyr a phobl sy'n gweithio yng nghanol y ddinas, ac mae'r opsiwn ar safle Fabian Way ar gyfer cymudwyr sydd am gael dewis amgen i'r bws parcio a theithio.

Yn ogystal â lleoliad diogel, mae'r hwb beicio yn Fabian Way hefyd yn cynnig gorsaf atgyweirio beiciau.

Rhagor o wybodaeth:

·       Hybiau beiciau: https://www.abertawe.gov.uk/beicio

·       Rhwydwaith llwybrau beicio a cherdded Abertawe sy'n parhau i dyfu:    https://www.abertawe.gov.uk/teithiollesol

·       Beicio yn Abertawe, gan gynnwys llogi beiciau: https://www.abertawe.gov.uk/beicio

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 31 Gorffenaf 2023