Plant ifanc yn mwynhau pedair ardal chwarae newydd
Mae ardaloedd chwarae newydd mewn pedair cymuned yn Abertawe wedi'u hagor gyda phedair arall yn agor yn fuan fel rhan o waith gwerth £5m i uwchraddio cyfleusterau ar draws y ddinas.
Mae ardaloedd chwarae yn Highmead yn Newton, Brokesby Road ym Môn-y-maen, Parc Dyfnant a Pharc Ynystawe i gyd wedi cael eu hagor yn dilyn gwaith adnewyddu. Mae gwaith ar ardaloedd ym Mhwynt Abertawe, Parc Maesteg, Ynysnewydd a Dôl Dyfnant ar fin cael ei gwblhau hefyd.
Ac mae gwelliannau wedi'u cwblhau'n ddiweddar ym Mharc yr Hafod ac ardal chwarae Garnswllt ym Mawr yn ogystal â Denver Road, Fforest-fach, a Heol Tir Du yn Nhreforys.
Cyflwynwyd detholiad o gyfarpar chwarae hefyd yn Brokesby Road, Highmead, Ynystawe a Pharc Dyfnant, gan gynnwys rowndabowts addas i'r anabl, arwynebau newydd, siglenni, llithrennau a thrampolinau.
Disgwylir i Barc Maesteg gael rhagor o siglenni, ffrâm ddringo SpaceNet a rowndabowt fel rhan o'r gwaith uwchraddio ger yr hanner piben sglefrfyrddio a bydd cyfleusterau newydd yn Ynysnewydd yn cynnwys weiren wib, estyll cydbwyso a ffrâm sgrafangu. Bydd rowndabowt ac uned ddringo'n cael eu hychwanegu at yr atyniadau presennol ym Mhwynt Abertawe.
Dywedodd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, fod y rownd ddiweddaraf o welliannau cynlluniedig yn dilyn y gwaith a wnaed i drawsnewid 50 o ardaloedd chwarae eraill ar draws y ddinas dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, ac mae rhagor yn yr arfaeth ar gyfer 2023.
Meddai, "Mae cwblhau'r rhaglen i wella pob ardal chwarae sy'n eiddo i'r cyngor yn un o ymrwymiadau polisi'r cyngor. Rwy'n falch iawn fod cymaint o gynnydd yn cael ei wneud mor gyflym."
Mae ardaloedd chwarae newydd neu sydd wedi'u gwella ledled Abertawe'n cynnwys cyfarpar sy'n amrywio o siglenni, llithrennau a rowndabowts traddodiadol i drampolinau, gwifrau gwib a fframiau dringo.
Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Dangosodd y pandemig pa mor bwysig oedd ardaloedd chwarae awyr agored am ddim i les ein plant a'n pobl ifanc. Mae cymunedau o Graig-cefn-parc i Gasllwchwr a West Cross wedi elwa ohonynt."
Mae'r safleoedd hynny sydd eisoes wedi derbyn ardaloedd chwarae newydd neu well yn cynnwys Mayhill, Uplands, Llansamlet, Gorseinon, Gelli Aur, Heol Frank, Parc Ravenhill, Weig Fawr a Pharc Cwmbwrla.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Ceir rhagor o wybodaeth yn https://www.abertawe.gov.uk/lleoeddchwaraenewydd