Toglo gwelededd dewislen symudol

Penodi Martin Nicholls fel Prif Weithredwr Cyngor Abertawe

Mae Cyngor Abertawe wedi penodi Prif Weithredwr newydd.

Cafodd Martin Nicholls sydd wedi bod yn gwasanaethu fel Prif Weithredwr dros dro ers mis Mai eleni, ei benodi'n Brif Weithredwr gan gyfarfod llawn y cynghorwyr ddoe.

Dechreuodd Mr Nicholls yn y swydd dros dro yn dilyn ymddeoliad ei ragflaenydd, Phil Roberts.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, am y penodiad, "Mae penodiad Martin fel Prif Weithredwr yn dra haeddiannol. Mae wedi bod yn Brif Weithredwr dros dro ardderchog sydd â pharch cydweithwyr, cynghorwyr ac eraill ar draws llywodraeth leol yng Nghymru.

"Fel Prif Weithredwr dros dro a Chyfarwyddwr Lleoedd cyn hynny, mae Martin wedi helpu i arwain yr awdurdod drwy gyfnod heriol iawn, gan gynnwys y pandemig a'r argyfwng costau byw.

"Mae Martin wedi bod yn ffynhonnell cyngor ac arweiniad bwysig wrth helpu'r cyngor i fwrw ymlaen â'i agenda gwella gwasanaethau, cyflawni'r Fargen Ddinesig ac Arena Abertawe'n llwyddiannus a chynlluniau'r cyngor ar gyfer dyfodol ein dinas a'i chymunedau."

Cyn ei rôl dros dro, roedd rôl Mr Nicholls fel Cyfarwyddwr Lleoedd yn cynnwys cyfrifoldeb am sicrhau cynnydd o ran adfywio canol y ddinas a meysydd gwasanaeth, gan gynnwys y gwasanaethau adeiladau ac eiddo corfforaethol, rheoli gwastraff, priffyrdd a chludiant, diwylliant a thwristiaeth, adfywio economaidd a chynllunio, a thai a diogelu'r cyhoedd.