Toglo gwelededd dewislen symudol

Noddi

Mae ein cyfleoedd noddi yn cynnig mwy o gyhoeddusrwydd i chi nag unrhyw ddarparwr arall yn ardal Abertawe.

Gall noddi roi cyfleoedd masnachol gwych i chi gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau celfyddydol, chwaraeon, addysg, cymdeithasol a diwylliannol proffil uchel sy'n dathlu hanes cyfoethog y ddinas a'i chymuned amrywiol.

Gallwn gynnig amrywiaeth o gyfleoedd noddi, o barciau i addysg, rydym yn gwneud popeth:

  • Cylchfannau
  • Citiau chwaraeon ysgolion
  • Clybiau brecwast ysgolion
  • Biniau graean halen ar briffyrdd
  • Coeden Nadolig canol y ddinas
  • Llyfrnodau mewn llyfrgelloedd
  • Baneri ar bolion lampau
  • Gwobrau Rho 5
  • Maethu Abertawe
  • Ailgylchu
  • Mentrau diogelwch ffyrdd
  • Papur newydd Arwain Abertawe
  • Meysydd parcio
  • Lleoliadau parcio a theithio
  • Cynhyrchiad tymhorol yn Theatr y Grand
  • Caeau chwaraeon

Mae gennym lawer mwy o syniadau, felly croeso i chi ein ffonio ni ar 01792 635457 neu llenwch ein ffurflen ymholiadau.

Noddi digwyddiadau

Mae nifer o gyfleoedd i noddi ein digwyddiadau arobryn yn Abertawe, gan gynnwys Sioe Awyr Cymru, sy'n denu cynulleidfa o fwy na 200,000 o bobl.

Ceir pecynnau sy'n addas ar gyfer pob cyllideb, a gellir eu teilwra i fodloni eich galwadau a'ch gofynion.

I gael mwy o wybodaeth am noddi digwyddiadau, hysbysebu neu stondinau masnachu, felly croeso i chi ein e-bost Commercial@swansea.gov.uk

Noddi ar gylchfan

Mae ein cynllun noddi cylchfannau yn cynnig cyfle i fusnesau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol gyfrannu at wella'r amgylchedd lleol.

Cyswllt nawdd, hysbysebu a hyrwyddiadau

Enw
Karen Betts
Teitl y Swydd
Rheolwr Masnachol
Rhif ffôn
07919 626729
Close Dewis iaith