Toglo gwelededd dewislen symudol

Digwyddiad Bwyd a Diod Croeso

Byddwch yn rhan o ddigwyddiad bwyd a diod Croeso!

Bydd Abertawe'n dathlu dydd Gŵyl Dewi mewn steil eleni wrth i ŵyl Croeso Abertawe ddychwelyd ar 28 Chwefror - 1 Mawrth 2025.

Fel rhan o'r dathliadau dwydydd, bydd digwyddiad Bwyd a Diod Croeso hefyd yn dychwelyd, ac mae'r cyfnod cyflwyno ceisiadau am stondin masnach bellach wedi cychwyn.

Bydd digwyddiad Bwyd a Diod Croeso'n cynnig cyfle i chi arddangos eich cynnyrch i gynulleidfa fawr, gan gyflwyno blasau, lliwiau ac arogleuon rhai o seigiau mwyaf eiconig a blasus Cymru.

Bydd gan rai o oreuon y rhanbarth gyfle i arddangos eu cynnyrch a'u bwyd cartref, a bydd arddangosiadau coginio byw drwy gydol yr ŵyl gan y cogyddion lleol gorau a chogyddion enwog.


Gwnewch yn siŵr nad ydych yn colli'ch cyfle i fod yn rhan o'r digwyddiad gwych hwn lle cewch gyfle i gyflwyno'ch cynnyrch i dros 30,000 o bobl. Mae prisiau'n dechrau o £50 yn unig ar gyfer deuddydd yr ŵyl! Gyda hyn, cewch y canlynol:

  • Dwydydd llawn o fasnachu
  • Cynulleidfa deuluol
  • Pabell fawr dan do
  • Eich cynnwys mewn manylion am y digwyddiad ar wefan Joio Bae Abertawe.

Brysiwch, mae ceisiadau'n dod i ben, felly gwnewch gais ar-lein a byddwch yn rhan o'r dathliadau Dydd Gŵyl Dewi.

Digwyddiad bwyd a diod Croeso - gwneud cais ar-lein Digwyddiad bwyd a diod Croeso - gwneud cais ar-lein

Amodau a thelerau stondin fasnach

Digwyddiad bwyd a diod Croeso amodau a thelerau stondin fasnach.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 06 Ionawr 2025