Anrhydedd dinesig i Norma Glass, MBE
Mae Norma Glass MBE, un o arweinwyr cymuned Iddewig Abertawe, wedi derbyn Anrhydedd Dinesig i gydnabod ei chyfraniad at hyrwyddo undeb hiliol a rhyng-ffydd ar draws ein dinas.
Roedd Mrs Glass yn westai anrhydeddus mewn derbyniad arbennig yn Neuadd y Ddinas Abertawe ar 23 Chwefror i nodi ei blynyddoedd lawer o hyrwyddo cydlyniant cymunedol mewn dinas sy'n siarad dros 100 o ieithoedd.
Mae Mrs Glass yn adnabyddus fel ymwelydd rheolaidd ag ysgolion ar draws Abertawe, mae'n berson blaenllaw yn nigwyddiadau coffa Diwrnod Coffáu'r Holocost ac mae'n un o aelodau sefydlu Cyngor Hil Cymru.
Dywedodd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, fod cyflwyno Anrhydedd Dinesig yn rhywbeth unigryw i amlygu'r cyfraniad y mae Mrs Glass wedi'i wneud o ran hyrwyddo cydraddoldeb hiliol mewn ysgolion a'r gymuned ehangach.
Meddai, "Mae Abertawe'n Ddinas Noddfa ac rydym yn gweithio i ddod yn Ddinas Hawliau Dynol. Mae Norma Glass wir yn cynrychioli pobl Abertawe, mae'n hyrwyddwr hawliau dynol ac yn ymgorfforiad o'r gorau ohonom fel cymuned.
"Rwyf mor falch bod Norma wedi cytuno i dderbyn y Wobr Ddinesig sy'n cydnabod ei chyflawniadau niferus a'i phrofiad helaeth o ymgysylltu â'r gymuned a hyrwyddo cydraddoldeb hiliol.
"Bydd bron pob ysgol yn Abertawe'n adnabod Norma, naill ai'n uniongyrchol oherwydd ei hymweliadau niferus â phlant lleol gyda'i neges o ddealltwriaeth hiliol a rhyng-ffydd, neu drwy ei rôl blaenllaw ym mudiad Diwrnod Coffáu'r Holocost.
"Mae ei hymroddiad i'w chymuned wedi bod yn rhagorol dros nifer o flynyddoedd a chydnabyddir hynny drwy'r MBE a gafodd gan EM y Frenhines yn 2010, am Wasanaethau i Ddealltwriaeth Hiliol yng Nghymru.
"Mae'r Anrhydedd Dinesig diweddaraf hwn yn cydnabod ei hymroddiad parhaus i'n cymunedau, a'i rôl fel person arweiniol o ran hyrwyddo goddefgarwch a pharch at ein gilydd."
Meddai Mrs Glass, "Rwyf wedi fy synnu'n fawr ac yn hapus dros ben i dderbyn yr anrhydedd annisgwyl hwn, yr wyf yn ei rannu â phreswylwyr Abertawe'r gorffennol a'r presennol.
"Mae ein dinas bellach yn cael ei chydnabod fel Dinas Noddfa a Hawliau Dynol. Ond pan ddaeth fy hynafiaid yma ar ôl ffoi rhag erchylltra pogromau Rwsia, daethant yma heb ddim heblaw am y gobaith y byddant yn goroesi; doedd ganddyn nhw ddim arian, addysg ffurfiol na sgiliau, a doedd y Gwasanaethau Cymdeithasol ddim yn bodoli bryd hynny.
"Ond cynigiodd pobl Abertawe noddfa a lloches iddynt. Dyna pam rydw i yma heddiw. Un ddolen yng nghadwyn bywyd Iddewig y ddinas hon. Diolch yn fawr."
Mae Mrs Glass yn aelod arweiniol o'r Gymuned Iddewig yng Nghymru ac yn aelod wedi'i ymddeol o Fwrdd Iddewon Prydeinig y DU. Roedd hefyd yn aelod sefydlu ac yn gyfarwyddwr Cyngor Hil Cymru ac mae'n ymwneud â'r Rhwydwaith Lleiafrifoedd Ethnig Hŷn, sy'n cael ei redeg gan Age Cymru.
Mae ganddi brofiad eang o ymgysylltu â'r gymuned a hyrwyddo cydraddoldeb hiliol ac mae'n gyfarwyddwr sefydlu Peacemala UK.