Toglo gwelededd dewislen symudol

Pabïau ar eu ffordd i Paddington ar gyfer Sul y Cofio

Rhoddwyd torchau pabïau ar drên arbennig yn Abertawe a oedd yn mynd i Lundain.

paddington poppy 2022

I ddathlu Dydd y Cofio, trefnodd Rheilffordd y Great Western ymgyrch Pabïau i Paddington, lle anfonwyd torchau o drefi a dinasoedd ar draws ei rhwydwaith i blatfform 1 yng ngorsaf Paddington i'w gosod wrth y gofeb ryfel. 

Rhoddodd arweinwyr dinesig, gan gynnwys Arglwydd Faer Abertawe Mike Day, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog Wendy Lewis, Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg Louise Fleet a Chadeirydd Rhanbarthol y Lleng Brydeinig Frenhinol Phillip Flower yngyd â chynrychiolwyr o'r lluoedd arfog eu torchau yng Ngorsaf Abertawe.

Roedd y digwyddiad yn un o nifer a fydd yn cael eu cynnal yn Abertawe fel rhan o ddigwyddiadau coffa 11 Tachwedd, gan gynnwys Distawrwydd yn y Sgwâr a gwasanaeth yn y Senotaff dinesig ar lan y môr.

Bydd ein dinas hefyd yn distewi am ddwy funud am 11am ar Sul y Cofio, pan fydd y genedl yn cofio am yr aberth a wnaed gan y lluoedd arfog mewn brwydrau o gwmpas y byd.

Bydd yr Arglwydd Faer, y Cyng. Day yn cynrychioli pobl Abertawe yn y Senotaff ddydd Sul a bydd hefyd yn mynd i'r Gwasanaeth Coffa blynyddol yn Eglwys y Santes Fair yng nghanol y ddinas.

Bydd Arweinydd y Cyngor a Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y Cyngor, y Cyng. Andrea Lewis, hefyd yn bresennol yn nigwyddiadau dydd Sul yn y Senotaff ac Eglwys y Santes Fair.

Bydd Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cyng. Wendy Lewis yn mynd i ddigwyddiadau coffa wrth Gofeb Ryfel Fforest-fach fore dydd Sul ac yn Eglwys y Santes Fair yn y prynhawn.

Meddai'r Cynghorydd Day, "Mae dwy funud o fyfyrio'n dawel yn symbol o'n diolchgarwch i'r rheini a wynebodd perygl i amddiffyn ein rhyddid, a'r rheini sy'n dal i wneud hynny heddiw.

"Mae'r ddwy funud hyn sy'n cael eu rhannu gan bobl ar draws Abertawe a gweddill y DU ar yr un pryd hefyd yn ein hatgoffa o'n treftadaeth o aberth ac ymdrech a rennir."

 

Close Dewis iaith