Toglo gwelededd dewislen symudol

Llawer ar gael i gadw pobl hŷn yn actif yn 2023

Mae llawer o weithgareddau ar gael i bobl hŷn sy'n bwriadu mynd allan, bod yn actif a chymdeithasu yn ystod 2023 diolch i dîm partneriaeth a chynnwys Cyngor Abertawe.

Arena tour older people

Arena tour older people

Maent yn cynnwys dangosiadau â phris gostyngol yn y sinema, troeon i grwpiau, sydd wedi dod yn boblogaidd iawn, a chyfleoedd i gwrdd yn wythnosol i gael te neu goffi, bisgedi a sgwrs.

Mae'r tîm hefyd yn bwriadu cynnal rhagor o weithgareddau untro, fel teithiau ac ymweliadau ar ôl i 135 o bobl fynd ar wibdaith i Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan y llynedd a gwerthwyd pob tocyn ar gyfer cyfres o deithiau ar y Copper Jack ar hyd Afon Tawe'n gyflym.

Mae cynlluniau ar gyfer eleni hefyd yn cynnwys sefydlu "Côr Heneiddio'n Dda Abertawe", ynghyd â sesiynau beicio tywys a bowlio deg.

Gall pobl 50 oed ac yn hŷn ddarganfod rhagor am y gweithgareddau trwy fynd i www.abertawe.gov.uk/dros50 neu trwy gofrestru ar gyfer y cylchlythyr rheolaidd yn www.abertawe.gov.uk/ebostheneiddiondda