Comisiwn Iechyd Meddwl a Hanesion Llafar ar gyfer Abertawe Wledig
Mae prosiect Iechyd Meddwl a Hanesion Llafar, ac adnoddau i gynyddu ymwybyddiaeth o'r gefnogaeth bresennol sydd ar gael ar gyfer y sector amaethyddol a gweithwyr ar y tir yn Abertawe Wledig newydd gael ei gomisiynu.
Bydd aelodau Grŵp Ardal Leol (GAL) Partneriaeth Datblygu Gwledig Abertawe ynghyd â phartneriaid cefnogi ffermio yn rhoi mesurau ar waith i gryfhau a chefnogi cymunedau amaethyddol a chreu Abertawe wledig gadarn a gwella iechyd a lles.
Mae aelodaeth y GAL wedi ehangu'n ddiweddar i gynnwys mwy o gynrychiolaeth amaethyddol ac mae hyn wedi darparu dealltwriaeth gliriach o'r anghenion a'r heriau a wynebir gan ein cymunedau ffermio yn Abertawe.
Bydd y comisiwn yn darparu cyfle i ffermwyr a gweithwyr amaethyddol siarad am dreftadaeth ffermio yn Abertawe wledig, am y llwyddiannau a'r anawsterau a brofir, a chaiff y rhain eu cofnodi er mwyn i genedlaethau'r dyfodol ddysgu oddi wrthynt. Bydd y comisiwn hefyd yn lleisio neges y gall problemau iechyd meddwl effeithio ar unrhyw un, ond bydd hefyd yn tynnu sylw at y gefnogaeth bresennol y gellir cael gafael arni'n lleol. Bydd adnoddau'n cyfeirio pobl at wybodaeth a gwasanaethau defnyddiol ac yn cynnig cyfleoedd i gysylltu â chymheiriaid a chychwyn sgyrsiau.
Meddai Andrew Stevens, Aelod Cabinet y Cyngor dros Wella Busnes a Pherfformiad, "Nid yw'n hawdd bod yn ffermwr, a gall sawl agwedd ar y swydd effeithio ar eich iechyd meddwl - gweithio oriau hir, ar eich pen eich hun gan amlaf, neu bryderon ariannol, ac oherwydd natur cynhyrchu bwyd does dim seibiant o'r gwaith, ni waeth beth yw'r tywydd. Mae'r rhan fwyaf o weithwyr gwledig yn byw lle maent yn gweithio, ac oherwydd hyn mae'n anoddach fyth i gadw'ch gwaith a'ch bywyd personol ar wahân.
Gellir rhagdybio bod ffermwyr yn gymeriadau gwydn, gweithgar a chryf, a'r amgyffrediad hwn sy'n ei gwneud yn anoddach fyth mynd i'r afael â'r stigma.
Gobeithio y bydd y prosiect yn helpu i arddangos ffermio a bywyd gwledig yn Abertawe a Gŵyr, a dangos pa mor bwysig ydyw i'n heconomi a'n hanes, ond yn bwysicach, gall dynnu sylw at y gwasanaethau sydd ar gael i helpu, a gobeithio helpu i chwalu rhwystrau a chynyddu ymwybyddiaeth o iechyd meddwl.
Mae Grŵp Ardal Leol Partneriaeth Datblygu Gwledig Abertawe yn ddiolchgar i nifer o'i sefydliadau partner, sef Rhwydwaith y Gymuned Ffermio, Sefydliad DPJ, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Prifysgol Bangor a RABI am eu holl fewnbwn ar ddatblygu'r comisiwn, a'u cefnogaeth barhaus."
Meddai Rachael Aka, aelod o'r grŵp gweithredu Lleol a'r Swyddog Cymorth Rhanbarthol Cymunedau Ffermio ar gyfer Cymru
"Mae'r gwaith llethol y mae'n rhaid ei wneud yn y sector ffermio ac amaethyddol yn cael effaith gorfforol ar y rheini sy'n gweithio yn y maes, ond mae hefyd yn rhoi straen sylweddol ar iechyd meddwl rhai ffermwyr a gweithwyr y tir, ac nid yw hyn bob tro wedi cael ei gydnabod gan y rheini sydd yn y sector.
Gobeithir y bydd y comisiwn yn normaleiddio trafodaethau ynghylch y pwnc ac yn dangos bod llawer o bobl yn dioddef o broblemau iechyd meddwl ac y bydd yn cefnogi ffermwyr a gweithwyr y tir sydd o bosib yn dioddef yn dawel."
Bydd y comisiwn yn darparu tair elfen:
Bydd y prosiect hanes llafar 'Stories of a Changing Landscape, a Farmer's Perspective' yn cynnig lle i weithwyr gwledig o Abertawe drafod eu hanes ffermio a thirwedd newidiol eu ffermydd teuluol ac yn tynnu sylw at yr anawsterau a'r llwyddiannau, pryderon iechyd meddwl a'r hyn a ddaw yn y dyfodol. Caiff hyn ei gofnodi mewn arddangosfa y trefnir ei bod ar gael dros lwyfannau digidol gwahanol a lleoedd arddangos ffisegol.
Bydd cyfeiriadur lleol ac sy'n benodol i'r sector a fydd yn cynnig manylion cyswllt sefydliadau sy'n cynnig cefnogaeth o ran pryderon iechyd meddwl, ac agweddau eraill fel cyngor cyfreithiol a chefnogaeth deuluol, yn cael ei gynhyrchu a'i ddosbarthu.
Bydd digwyddiadau'r arddangosfa'n arddangos 'Stories of a Changing Landscape, a Farmer's Perspective' a fydd yn dod â chymunedau Abertawe ynghyd i ddathlu treftadaeth ffermio, mynd i'r afael â phroblemau iechyd meddwl a darparu gwybodaeth am sefydliadau cefnogi.
Ydych chi'n ffermwr neu'n weithiwr amaethyddol sy'n gweithio ar y tir a fyddai'n hoffi rhannu'ch treftadaeth a'ch profiadau fel rhan o'r comisiwn hwn, neu oes angen cefnogaeth arnoch ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl? Cysylltwch â thîm y RhDG yng Nghyngor Abertawe am fanylion pellach.
Rhaglen saith mlynedd Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig yw'r RhDG a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd a rhaglen Cymunedau Gwledig - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, a ddaw i ben yn 2023.
Rhagor - https://www.abertawe.gov.uk/RhDG a https://cy-gb.facebook.com/rdpleader/