Toglo gwelededd dewislen symudol

Artist yn helpu i ddathlu straeon menywod dylanwadol Abertawe

Mae un o artistiaid Abertawe, Patti McKenna, yn defnyddio adfywiad un o dirnodau'r ddinas i ddathlu bywydau menywod lleol.

Palace Theatre mural 2021

Mae hi wedi paentio murluniau trawiadol o dair menyw ar hysbysfyrddau diogelwch coch o gwmpas gwaelod adeilad hanesyddol Theatr y Palace ar y Stryd Fawr.

Mae Cyngor Abertawe'n gweithio i achub yr adeiledd a rhoi bywyd newydd iddo fel canolfan i fusnesau creadigol newydd.

Meddai Patti, "Rwy'n falch bod y cyngor wedi caniatáu i mi ddathlu pobl leol gref yn y ffordd hon. Mae nifer o breswylwyr lleol wedi dweud wrthyf pa mor falch y maent i'w gweld.

"Dwi wedi cael adborth hyfryd gan bobl leol - maen nhw'n credu ei fod yn hyfryd bod straeon menywod yn cael eu hadrodd a bod y murluniau'n cynrychioli amrywiaeth eang o ethnigedd. Mae pob un o'r menywod arnynt wedi rhoi llawer i gymunedau lleol."

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, "Rwy'n falch y daeth Patti atom gyda'r syniad hwn - ac rwy'n gwybod bod y murluniau'n dod â llawer o fwynhad.

"Maen nhw'n cynrychioli amrywiaeth eang o fenywod sydd, yn eu ffordd eu hunain, wedi gwneud Abertawe'n lle gwell."

Dyma'r menywod sy'n ymddangos ar furluniau Patti hyd yn hyn: Helen Griffin, actores, dramodydd a sgriptiwr ffilmiau; Bintou, sy'n adnabyddus am ei gwaith pwysig gyda'r digartref yn Abertawe; Jan Kauffling, nyrs digartrefedd. Dros y misoedd i ddod, mae'n bwriadu ychwanegu lluniau eraill.

Mae'n hawdd mwynhau murluniau Patti - maen nhw ar lefel y stryd ac fe'u diogelir rhag difrod gan gamerâu CCTV sydd newydd eu gosod.

Patti McKenna: https://swanseaprintworkshop.org.uk/artist-list/patricia-mckenna/