Gorymdaith y Nadolig yn llwyddiant enfawr
Daeth degau ar filoedd o breswylwyr ac ymwelwyr i wylio Gorymdaith y Nadolig flynyddol Abertawe sy'n nodi dechrau tymor y Nadolig.
Roeddent wedi mwynhau'r digwyddiad am ddim a drefnwyd gan Gyngor Abertawe a oedd yn cynnwys cymysgedd lliwgar o grwpiau cymunedol, diddanwyr proffesiynol gwych, bandiau gorymdeithio, cerbydau sioe hudol, cymeriadau ffilmiau lliwgar a chymeriadau chwyddadwy Nadoligaidd.
Roedd Siôn Corn yno hefyd i gynnau goleuadau disglair y Nadolig yng nghanol y ddinas.
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio, Twristiaeth a Digwyddiadau, Robert Francis-Davies, "Dechreuodd holl hwyl yr ŵyl yn Abertawe nos Sul!
"Roedd gorymdaith eleni, digwyddiad am ddim arall a ddarparwyd gan y Cyngor, yn olygfa a oedd yn werth ei gweld unwaith eto.
"Dyma un o orymdeithiau Nadolig mwyaf Abertawe. Roedd nifer fawr o bobl yn bresennol ac roedd y bobl hynny wedi ei mwynhau'n fawr.
"Cymerodd lawer o gymunedau Abertawe ran yn y digwyddiad a hoffwn ddiolch iddynt am eu cyfraniad a'u gwaith caled sydd wedi helpu i wneud y digwyddiad yn gymaint o lwyddiant. Roedd rhai perfformwyr masnachol rhagorol yn yr orymdaith ond yr hyn sy'n ei gwneud mor arbennig yw gweld cynifer o bobl leol yn gwneud cymaint o ymdrech ac yn mwynhau eu hunain ar yr un pryd.
"Os nad oedd pobl llawn hwyl yr ŵyl cyn y digwyddiad, mae hynny'n sicr wedi newid erbyn hyn!"
Yn ôl oherwydd galw mawr roedd Spark!, sioe theatr stryd sy'n cyfuno perfformiad drymio effaith uchel â dyluniad goleuo caleidosgopaidd. Roedd hefyd ceirw enfawr wedi'u goleuo a oedd yn ymddangos fel pe baent yn arnofio yn yr awyr ac adar enfawr hudol Gwledd y Gaeaf.
Yn ymuno â'r rheini roedd cannoedd o bobl o gymunedau Abertawe'n cymryd rhan yn yr orymdaith. Roeddent yn rhannu hwyl yr ŵyl â miloedd o wylwyr.
Roedd Trên Bach Bae Abertawe yno hefyd, a gafodd ei weddnewid ar gyfer ei ymddangosiad arbennig yn yr orymdaith gydag ychydig o gymorth gan Dîm y Cynnig Gofal Plant i Gymru Abertawe, a oedd yn lledaenu'r neges am ofal plant am ddim i rieni cymwys.
Bydd atyniadau Nadoligaidd eraill sydd ar ddod yn helpu i sicrhau Nadolig a hanner yn Abertawe eleni.
Mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau nesaf i'r LC ym Mharc yr Amgueddfa eisoes ar agor. Mae'r digwyddiad, a gynhelir gan Sayers Events, yn cynnig llwybr iâ a llyn iâ yn ogystal â phentref bwyd a ffair bleser Nadoligaidd gydag olwyn fawr.
Mae crefftwyr dawnus, masnachwyr traddodiadol a gwerthwyr bwyd blasus yn dychwelyd i Farchnad Nadolig Abertawe o 23 Tachwedd i 22 Rhagfyr. Bydd cabanau Nadoligaidd ar hyd Stryd Rhydychen a Portland Street yn cynnig anrhegion unigryw, danteithion i'ch temtio ac addurniadau hardd.
Yn ogystal â hyn, bydd gwasanaethau bysus am ddim bob dydd Sadwrn a dydd Sul yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig os yw'r daith yn dechrau ac yn gorffen o fewn ffin y sir ac yn dechrau cyn 7pm.
Meddai'r Cyng. Francis-Davies, "Mae eleni'n addo bod yn Nadolig a hanner yn Abertawe!"
I weld rhagor o bethau Nadoligaidd i'w mwynhau yn Abertawe'r Nadolig hwn, ewch i: www.croesobaeabertawe.com