Toglo gwelededd dewislen symudol

Noson Gorymdaith y Nadolig yn un i'w chofio

Daeth degau ar filoedd o breswylwyr ac ymwelwyr i wylio Gorymdaith y Nadolig flynyddol Abertawe a oedd yn dynodi dechrau cyfnod yr ŵyl.

Roeddent wedi mwynhau'r digwyddiad am ddim a drefnwyd gan Gyngor Abertawe a oedd yn cynnwys cymysgedd lliwgar o grwpiau cymunedol, diddanwyr proffesiynol gwych, bandiau gorymdeithio, cerbydau sioe hudol, cymeriadau ffilmiau lliwgar a chymeriadau chwyddadwy Nadoligaidd. 

Roedd Siôn Corn yno hefyd i gynnau goleuadau disglair y Nadolig yng nghanol y ddinas.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies , "Dechreuodd holl hwyl yr ŵyl yn Abertawe nos Sul! Roedd gorymdaith eleni - digwyddiad am ddim arall a ddarparwyd gan
Gyngor Abertawe - yn dipyn o sioe unwaith eto eleni.

"Roedd yn un o orymdeithiau mwyaf Abertawe a ddenodd dorf enfawr, a chafodd ganmoliaeth fawr gan y rheini a ddaeth i'w gweld.

"Roedd cynifer o gymunedau Abertawe wedi cymryd rhan yn y digwyddiad a hoffwn ddiolch iddynt am eu cyfraniad a'u gwaith caled i'w helpu i wneud yn gymaint o lwyddiant.

"Roedd rhai perfformwyr masnachol rhagorol yn yr orymdaith ond yr hyn sy'n ei gwneud mor arbennig ac mor unigryw i Abertawe yw gweld cynifer o bobl leol yn gwneud cymaint o ymdrech ac yn mwynhau eu hunain ar yr un pryd. Mae'r rheini nad oeddent yn teimlo hwyl yr ŵyl cyn y digwyddiad yn bendant yn ei theimlo nawr!"

Rhagor o wybodaeth: www.croesobaeabertawe.com   

 

Close Dewis iaith