Parc Felindre
Mae parc busnes 16 hectar Parc Felindre ar safle hen Waith Tunplat Felindre a helpodd i wneud Abertawe'n ganolfan ddiwydiannol o fri.


Cliriwyd ac adferwyd y safle tir llwyd yn sgîl partneriaeth menter ar y cyd rhwng Cyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru.
Mae isadeiledd newydd yn ei le ar y safle i ganiatáu datblygu swyddfeydd o ansawdd uchel a mangreoedd diwydiannol i weddu i anghenion busnesau sefydledig a'r rheini sy'n datblygu yn yr ardal ac o bell.
Mae gan y safle 12 llain sydd wedi'u gwasanaethu'n llawn, yn amrywio o 1.2 i 4.9 erw.