Plant wrth eu bodd gydag ardal chwarae newydd Parc Llewelyn
Mae plant yng nghymuned Abertawe wedi cael ardal chwarae newydd sbon.
Mae Parc Llewelyn yn Nhreforys eisoes yn gyrchfan cymunedol poblogaidd sydd â golygfeydd godidog ar draws Abertawe, canolfan gymunedol ffyniannus, llwybrau cerdded cŵn hyfryd a chyrtiau tenis.
Yr ardal chwarae i blant yw'r diweddaraf i elwa o'r rhaglen uwchraddio gwerth £7m ar draws y ddinas a agorwyd yn swyddogol gan Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart.
Mae hyn yn golygu bod dros 50 o gymdogaethau o gwmpas y ddinas bellach wedi elwa o'r prosiect adnewyddu ardaloedd chwarae sydd fel arfer yn cynnwys cyfleusterau i bobl ifanc anabl fel rowndabowtiau sy'n gyfwastad â'r llawr, llithrennau llydan, siglenni basged a byrddau cyfathrebu.
Ym Mharc Llewelyn mae plant ifanc yn mwynhau anturiaethau newydd yn heulwen yr haf ar uned aml-chwarae ar arddull castell, siglenni, rowndabowt, trampolîn a llawer mwy.
I gael gwybod mwy am fuddsoddiad mwyaf erioed y Cyngor mewn ardaloedd chwarae, ewch i: https://www.abertawe.gov.uk/lleoeddchwaraenewydd